Dyfodol gwasanaethau Meddygfa Cei Newydd
Anogir cleifion a'r gymuned leol i leisio eu barn ar ddarpariaeth y dyfodol o wasanaethau meddygol cyffredinol, sy'n cael eu darparu ar hyn o bryd gan bartneriaid Meddygfa Cei Newydd.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi lansio cyfnod ymgysylltu â’r cyhoedd sy’n para wyth wythnos, er mwyn clywed barn pobl cyn bod penderfyniad terfynol yn cael ei wneud. Bydd y broses ymgysylltu ar agor tan dydd Sul 6 Rhagfyr 2026.
Daw'r broses ymgysylltu yn dilyn penderfyniad Partneriaid Meddyg Teulu Meddygfa Cei Newydd i roi'r gorau i gontract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol y feddygfa. Bydd y contract presennol yn dod i ben ar 31 Mawrth 2027, ac mae'r Bwrdd Iechyd yn ystyried sut y darperir gwasanaethau ar ôl y dyddiad hwn. Mae Meddygfa Cei Newydd yn parhau i fod ar agor fel arfer yn y cyfamser, ac anogir cleifion i barhau i fod wedi'u cofrestru gyda'r feddygfa.
Mae Panel Practisau Gwag wedi ystyried amrywiaeth o opsiynau ar gyfer darparu gwasanaethau yn y dyfodol. Argymhellodd aelodau'r Panel mai'r opsiwn o'u dewis yw dyfarnu contract ar frys drwy broses gaffael i ddod o hyd i ddarparwr gwasanaethau newydd o'r Cei Newydd a'i benodi.
Cytunodd y Panel hefyd i ystyried ffiniau ardaloedd practisau meddygon teulu cyfagos. Bydd hyn yn darparu gwybodaeth ychwanegol rhag ofn na fydd yn bosibl dyfarnu contract newydd, ac y bydd angen ystyried gwasgaru rhestr y cleifion i bractisau cyfagos eraill mewn modd rheoledig fel dewis arall.
Ystyriwyd hefyd yr opsiwn i'r Bwrdd Iechyd reoli'r practis yn uniongyrchol, ond ni chafodd ei argymell ar y cam hwn oherwydd y risgiau gweithredol a ariannol sy'n gysylltiedig â sicrhau staff priodol – gan gynnwys meddygon teulu – i ddarparu gwasanaethau diogel a chynaliadwy.
Nid oes penderfyniad terfynol wedi'i wneud, ac mae'r Bwrdd Iechyd eisiau i gleifion, cymunedau a rhanddeiliaid eraill ddeall yr opsiynau a rhannu eu barn cyn cam nesaf y broses.
Mae'r cyfnod ymgysylltu yn rhedeg o ddydd Llun 12 Hydref tan dydd Sul 6 Rhagfyr 2026. Bydd y Bwrdd Iechyd yn ysgrifennu at yr holl gleifion sydd wedi cofrestru gyda Meddygfa Cei Newydd gyda copïau papur o'r holiadur.
Gall pobl hefyd rannu eu barn drwy:
- Cwblhau'r holiadur ar-lein isod
- E-bostio: ask.hdd@wales.nhs.uk
- Cwblhau holiadur papur, a'i ddychwelyd i'r blwch casglu yn Meddygfa Cei Newydd
- Ffonio Hyb Cyfathrebu'r Bwrdd Iechyd ar 0300 303 8322 (opsiwn 5)
- Rhannu adborth gyda Llais yn LLAIS Gorllewin Cymru
Bydd y Bwrdd Iechyd hefyd yn cynnal digwyddiad ymgysylltu cyhoeddus galw heibio, lle gall pobl gwrdd â chynrychiolwyr, gofyn cwestiynau a rhoi adborth.
- Dyddiad: Dydd Mercher 11 Tachwedd 2026
- Amser: 2pm – 7pm (galwch heibio unrhyw bryd)
- Lleoliad: Neuadd Goffa Cei Newydd, Heol Towyn, Cei Newydd, Ceredigion, SA45 9QQ.
Cynhelir digwyddiad ar-lein hefyd ddydd Mawrth 17 Tachwedd am 6.30pm. Anfonwch e-bost hyweldda.ymgysylltu@wales.nhs.uk i dderbyn dolen i'r digwyddiad ar-lein.
Disgwylir cyflwyno papur i'r Bwrdd Iechyd yn gynnar y flwyddyn nesaf, yn nodi canlyniadau'r broses ymgysylltu a chaffael ac, lle bo'n briodol, opsiynau amgen i'w hystyried.