Dyfodol gwasanaethau Meddygfa Cei Newydd

Rhannu Dyfodol gwasanaethau Meddygfa Cei Newydd ar Facebook Rhannu Dyfodol gwasanaethau Meddygfa Cei Newydd Ar Twitter Rhannu Dyfodol gwasanaethau Meddygfa Cei Newydd Ar LinkedIn E-bost Dyfodol gwasanaethau Meddygfa Cei Newydd dolen

Anogir cleifion a'r gymuned leol i leisio eu barn ar ddarpariaeth y dyfodol o wasanaethau meddygol cyffredinol, sy'n cael eu darparu ar hyn o bryd gan bartneriaid Meddygfa Cei Newydd.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi lansio cyfnod ymgysylltu â’r cyhoedd sy’n para wyth wythnos, er mwyn clywed barn pobl cyn bod penderfyniad terfynol yn cael ei wneud. Bydd y broses ymgysylltu ar agor tan dydd Sul 6 Rhagfyr 2026.

Daw'r broses ymgysylltu yn dilyn penderfyniad Partneriaid Meddyg Teulu Meddygfa Cei Newydd i roi'r gorau i gontract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol y feddygfa. Bydd y contract presennol yn dod i ben ar 31 Mawrth 2027, ac mae'r Bwrdd Iechyd yn ystyried sut y darperir gwasanaethau ar ôl y dyddiad hwn. Mae Meddygfa Cei Newydd yn parhau i fod ar agor fel arfer yn y cyfamser, ac anogir cleifion i barhau i fod wedi'u cofrestru gyda'r feddygfa.

Mae Panel Practisau Gwag wedi ystyried amrywiaeth o opsiynau ar gyfer darparu gwasanaethau yn y dyfodol. Argymhellodd aelodau'r Panel mai'r opsiwn o'u dewis yw dyfarnu contract ar frys drwy broses gaffael i ddod o hyd i ddarparwr gwasanaethau newydd o'r Cei Newydd a'i benodi.

Cytunodd y Panel hefyd i ystyried ffiniau ardaloedd practisau meddygon teulu cyfagos. Bydd hyn yn darparu gwybodaeth ychwanegol rhag ofn na fydd yn bosibl dyfarnu contract newydd, ac y bydd angen ystyried gwasgaru rhestr y cleifion i bractisau cyfagos eraill mewn modd rheoledig fel dewis arall.

Ystyriwyd hefyd yr opsiwn i'r Bwrdd Iechyd reoli'r practis yn uniongyrchol, ond ni chafodd ei argymell ar y cam hwn oherwydd y risgiau gweithredol a ariannol sy'n gysylltiedig â sicrhau staff priodol – gan gynnwys meddygon teulu – i ddarparu gwasanaethau diogel a chynaliadwy.

Nid oes penderfyniad terfynol wedi'i wneud, ac mae'r Bwrdd Iechyd eisiau i gleifion, cymunedau a rhanddeiliaid eraill ddeall yr opsiynau a rhannu eu barn cyn cam nesaf y broses.

Mae'r cyfnod ymgysylltu yn rhedeg o ddydd Llun 12 Hydref tan dydd Sul 6 Rhagfyr 2026. Bydd y Bwrdd Iechyd yn ysgrifennu at yr holl gleifion sydd wedi cofrestru gyda Meddygfa Cei Newydd gyda copïau papur o'r holiadur.

Gall pobl hefyd rannu eu barn drwy:

  • Cwblhau'r holiadur ar-lein isod
  • E-bostio: ask.hdd@wales.nhs.uk
  • Cwblhau holiadur papur, a'i ddychwelyd i'r blwch casglu yn Meddygfa Cei Newydd
  • Ffonio Hyb Cyfathrebu'r Bwrdd Iechyd ar 0300 303 8322 (opsiwn 5)
  • Rhannu adborth gyda Llais yn LLAIS Gorllewin Cymru

Bydd y Bwrdd Iechyd hefyd yn cynnal digwyddiad ymgysylltu cyhoeddus galw heibio, lle gall pobl gwrdd â chynrychiolwyr, gofyn cwestiynau a rhoi adborth.

  • Dyddiad: Dydd Mercher 11 Tachwedd 2026
  • Amser: 2pm – 7pm (galwch heibio unrhyw bryd)
  • Lleoliad: Neuadd Goffa Cei Newydd, Heol Towyn, Cei Newydd, Ceredigion, SA45 9QQ.

Cynhelir digwyddiad ar-lein hefyd ddydd Mawrth 17 Tachwedd am 6.30pm. Anfonwch e-bost hyweldda.ymgysylltu@wales.nhs.uk i dderbyn dolen i'r digwyddiad ar-lein.

Disgwylir cyflwyno papur i'r Bwrdd Iechyd yn gynnar y flwyddyn nesaf, yn nodi canlyniadau'r broses ymgysylltu a chaffael ac, lle bo'n briodol, opsiynau amgen i'w hystyried.

  • Mae'r cwestiynau hyn yn gofyn am drefniadau posibl yn y dyfodol ar gyfer gwasanaethau meddygon teulu ym Meddygfa Cei Newydd ar ôl diwedd mis Mawrth 2027. Yn dilyn penderfyniad y contractwr meddygon teulu presennol i drosglwyddo eu contract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol yn ôl, cynhaliodd y Bwrdd Iechyd Banel cynghori, o'r enw Panel Practis Gwag I ystyried yr opsiynau ar gyfer dyfodol y gwasanaethau a ddarperir ar hyn o bryd gan Meddygfa Cei Newydd. Ystyriodd y Panel dri opsiwn posibl.

    Yr opsiwn a'r argymhelliad a ffefrir ar hyn o bryd yw dod o hyd i gontractwr annibynnol newydd, sef meddyg teulu neu sefydliad a fyddai'n rhedeg y feddygfa o dan gytundeb gyda'r Bwrdd Iechyd, ac a fyddai'n parhau i ddarparu gwasanaethau meddygon teulu o Meddygfa Cei Newydd ar ôl diwedd mis Mawrth 2027.

    Mae'r Bwrdd Iechyd hefyd yn casglu barn ar yr opsiynau eraill a drafodwyd, gan gynnwys cleifion yn cael eu trosglwyddo i bractisau meddygon teulu cyfagos eraill gan y Bwrdd Iechyd, neu Meddygfa Cei Newydd yn dod yn bractis a reolir gan y Bwrdd Iechyd.

    Nid oes unrhyw benderfyniad wedi'i wneud. Bydd eich adborth yn helpu'r Bwrdd Iechyd i ddeall beth sydd fwyaf pwysig i gleifion, gofalwyr a'r gymuned ehangach, a beth allai effaith pob opsiwn fod.

    Llenwi holiadur
    Rhannu Holiadur Cleifion Meddygfa Cei Newydd - dyfodol gwasanaethau ar gyfer cleifion cofrestredig - Arolwg ar Facebook Rhannu Holiadur Cleifion Meddygfa Cei Newydd - dyfodol gwasanaethau ar gyfer cleifion cofrestredig - Arolwg Ar Twitter Rhannu Holiadur Cleifion Meddygfa Cei Newydd - dyfodol gwasanaethau ar gyfer cleifion cofrestredig - Arolwg Ar LinkedIn E-bost Holiadur Cleifion Meddygfa Cei Newydd - dyfodol gwasanaethau ar gyfer cleifion cofrestredig - Arolwg dolen
Diweddaru: 12 Hyd 2026, 04:44 PM