Canolfan Pentre Awel Centre

Rhannu Canolfan Pentre Awel Centre ar Facebook Rhannu Canolfan Pentre Awel Centre Ar Twitter Rhannu Canolfan Pentre Awel Centre Ar LinkedIn E-bost Canolfan Pentre Awel Centre dolen

Mae Pentre Awel yn brosiect unwaith mewn cenhedlaeth sy’n dod â busnes, ymchwil, addysg, gofal iechyd cymunedol a chyfleusterau hamdden modern ynghyd mewn un lleoliad gwych ar hyd arfordir Llanelli.

Pentre Awel yw’r datblygiad cyntaf o’i gwmpas a’i faint yng Nghymru gan ddarparu ymchwil feddygol a gofal iechyd, yn ogystal â chefnogi ac annog pobl i fyw bywydau egnïol ac iach.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithio mewn partneriaeth ar ddatblygiad trawsnewidiol Pentre Awel, dan arweiniad Cyngor Sir Caerfyrddin. Fel rhan o’r datblygiad hwn, bydd Uned Cyflawni Clinigol (CDU) Hywel Dda yn darparu ystod o glinigau therapi, nyrsio ac awdioleg, yn ogystal â chyfleoedd ymchwil a datblygu.

Bydd y gwasanaethau sydd ar gael ym Mhentre Awel yn cynnwys:

  • Hydrotherapi
  • Ffisiotherapi
  • Fflebotomi (gwasanaeth profion gwaed)
  • Therapi Iaith a Lleferydd (SALT)
  • Awdioleg
  • Deieteg
  • Rhiwmatoleg
  • Podiatreg
  • Lymffedema
  • Methiant Cwsg a Chymorth Anadlu
  • Gwasanaeth Asesu a Thriniaeth Cyhyrysgerbydol Clinigol (CMATS)
  • Gwasanaeth Rheoli Sbastigedd

I gael rhagor o wybodaeth am ddatblygiad Pentre Awel, ewch i wefan benodol Cyngor Sir Caerfyrddin:

https://www.sirgar.llyw.cymru/cartref/busnes/datblygu-a-buddsoddiad/pentre-awel/

Cynhelir y cyfnod ymgysylltu hwn rhwng 28 Chwerfor i 11 Ebrill 2025. Gall cleifion ac aelodau o'r gymuned ehangach ddweud eu dweud mewn amryw ffyrdd:

  • Mynychu digwyddiad galw heibio ddydd Iau 3 Ebrill 2025, Ystafell Lliedi, Canolfan Selwyn Samuel, tu ôl i'r Ganolfan Hamdden, Park Crescent, Llanelli SA15 3AE – dewch draw i’n gweld unrhyw bryd rhwng 10yb a 1yp NEU 3yp a 6yp.
  • Llenwi holiadur: gallwch ei roi yn ôl i aelod o'n tîm os ydych yn ei gwblhau yn ystod apwyntiad gyda'r gwasanaeth neu ei bostio i FREEPOST HYWEL DDA HEALTH BOARD
  • Holiadur ar-lein isod drwy ein gwefan ‘Dweud Eich Dweud’ yn www.dweudeichdweud.biphdd.cymru.nhs.uk
  • Cwblhewch yr holiadur monitro cydraddoldeb hefyd, gan fod hyn yn ein helpu i sicrhau ein bod yn casglu safbwyntiau o bob rhan o'r gymuned. Mae'r ddau holiadur yn ddienw. Rhowch adborth ar eich barn erbyn Dydd Gwener 11 Ebrill 2025.

  •  Helpwch ni i ddeall sut y bydd y newid hwn yn effeithio arnoch chi trwy gwblhau'r arolwg hwn a'i ddychwelyd erbyn dydd Gwener 11 Ebrill 2025.

    Llenwi holiadur
    Rhannu Gwasanaethau Pentre Awel - Holiadur ar Facebook Rhannu Gwasanaethau Pentre Awel - Holiadur Ar Twitter Rhannu Gwasanaethau Pentre Awel - Holiadur Ar LinkedIn E-bost Gwasanaethau Pentre Awel - Holiadur dolen
Diweddaru: 28 Chwef 2025, 02:26 PM