Panel Darllenwyr
Hoffech chi ein helpu i wneud ein cyfathrebu yn gliriach ac yn fwy hygyrch i bawb yn ein cymunedau? Ymunwch â'n Panel Darllenwyr a chwarae rôl hanfodol wrth lunio'r wybodaeth rydyn ni'n ei rhannu gyda chleifion, defnyddwyr gwasanaeth a'r cyhoedd ehangach.
Mae'r Bwrdd Iechyd wedi ymrwymo i ymgysylltu â'n cleifion, gofalwyr a chymunedau, gwrando arnynt a dysgu ganddynt. Un o'r ffyrdd rydym yn gwneud hyn yw drwy ein Panel Darllenwyr, sy'n ein helpu i wella ein cyfathrebu a sicrhau eu bod yn hawdd eu deall ac yn diwallu anghenion pawb yr ydym yn eu gwasanaethu.
Beth yw Panel Darllenwyr?
Mae'r Panel Darllenwyr yn grŵp o aelodau gwirfoddol o' n cynllun cynnwys cymuned Siarad Iechyd / Talking Health (gan gynnwys cleifion a staff). Mae aelodau'r Panel Darllenwyr yn gwirfoddoli i ddarllen a rhoi sylwadau ar wybodaeth y mae staff Hywel Dda yn ei ysgrifennu ar gyfer eu cleifion, defnyddwyr gwasanaeth ac aelodau o'n cymunedau.
Gall y wybodaeth hon gynnwys:
- Canllawiau ble i gael cymorth
- Taflenni gwybodaeth i gleifion am gyflyrau meddygol a thriniaethau
- Llythyrau
- Arolygon
- Gwybodaeth am y wefan
- Sgriptiau ar gyfer fideos
Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol i fod yn aelod o Banel Darllenwyr, gan y byddem yn gofyn am farn ar sut mae'r wybodaeth yn cael ei geirio, sut mae'n cael ei chyflwyno, a yw'n hawdd ei deall ac os yw'n esbonio jargon meddygol. Mae pob aelod yn rhydd i wneud sylwadau ar unrhyw agwedd ar y wybodaeth y maent yn teimlo bod angen ei wella neu ei chanmol.
Anfonir cyhoeddiadau drafft i wirfoddolwyr y Panel Darllenwyr drwy e-bost, neu drwy'r post, i'w darllen, a gofynnir iddynt gyflwyno eu hadborth trwy ddolen arolwg, fel arfer o fewn 3 wythnos. Yn fwy diweddar, rydym wedi cynnal fersiwn ar-lein o'r Panel Darllenwyr, gan roi cyfle i aelodau rannu eu hadborth mewn sesiwn Teams ar-lein. Ar ôl i ni dderbyn sylwadau gan y Panel Darllenwyr, maent yn cael eu hanfon at yr awduron gwreiddiol.
Mae hwn yn gyfle i'r awdur wirio na fydd unrhyw ddiwygiadau y mae angen eu gwneud o ganlyniad i'r sylwadau a dderbyniwyd yn newid ystyr na chywirdeb y testun. Ar ôl i'r awduron roi cymeradwyaeth, mae'r cyfathrebu yn cael ei roi mewn cylchrediad gyda logo 'Panel Darllenwyr wedi'i asesu' lle bo hynny'n briodol.
Anfonir adborth a diolch gan awduron ynghyd â chopi o'r daflen derfynol at aelodau'r Panel Darllenwyr.
Pam mae angen Panel Darllenwyr arnom?
Yn ardal Hywel Dda mae yna lawer o bobl ag anghenion cyfathrebu gwahanol, er enghraifft y rhai ag anghenion synhwyraidd neu'r rhai nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf.
Mae angen i bobl wirfoddoli i fod yn rhan o'r panel er mwyn sicrhau bod y wybodaeth rydyn ni'n ei chyhoeddi yn diwallu anghenion ein cymuned amrywiol. Mae'n bwysig i ni ein bod yn gwybod ein bod yn defnyddio'r geiriau cywir, yn y ffordd gywir, i gyfleu ein neges yn glir.
Yn ogystal, mae adborth gan gleifion a'r cyhoedd yn rhan annatod o'n proses asesu ansawdd.
Sut alla i gymryd rhan yn y Panel Darllenwyr?
Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn aelod o'r Panel Darllenwyr, ymunwch â' n cynllun Siarad Iechyd / Talking Health drwy naill ai:
- Clicio yma i lenwi'r ffurflen gofrestru ar-lein (Dolen gyswllt allanol)
- Sganio’r Cod QR i gysylltu'n uniongyrchol â'r ffurflen gofrestru
Gallwch ddarganfod mwy am gynllun Siarad Iechyd Talking Health yma.
Sut gall y Panel Darllenwyr asesu fy ngwybodaeth?
Os ydych yn aelod o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a hoffech i’ch gwybodaeth gael ei hasesu gan y Panel Darllenwyr, cysylltwch â ni drwy e-bost yn: hyweldda.ymgysylltu@wales.nhs.uk

