Siarad Iechyd / Talking Health yw cynllun cyfranogiad ac ymgysylltu Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda sy'n rhoi cyfle i bobl leol ddweud eu dweud ar sut mae gwasanaethau iechyd lleol yn cael eu cynllunio, eu datblygu a'u darparu led
led Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae'n bwysig ein bod yn gwrando ar, ac yn gweithredu ar, safbwyntiau, barn a syniadau pobl yn ein cymunedau wrth ein helpu i wella'r hyn a wnawn.
Gallwch chi gymryd rhan os yw unrhyw un o'r canlynol yn berthnasol i chi:
• Mae gennych ddiddordeb mewn gwasanaethau iechyd
• Rydych chi'n defnyddio gwasanaethau'r BwrddParhau i ddarllen
Siarad Iechyd / Talking Health yw cynllun cyfranogiad ac ymgysylltu Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda sy'n rhoi cyfle i bobl leol ddweud eu dweud ar sut mae gwasanaethau iechyd lleol yn cael eu cynllunio, eu datblygu a'u darparu led
led Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae'n bwysig ein bod yn gwrando ar, ac yn gweithredu ar, safbwyntiau, barn a syniadau pobl yn ein cymunedau wrth ein helpu i wella'r hyn a wnawn.
Gallwch chi gymryd rhan os yw unrhyw un o'r canlynol yn berthnasol i chi:
• Mae gennych ddiddordeb mewn gwasanaethau iechyd
• Rydych chi'n defnyddio gwasanaethau'r Bwrdd Iechyd
• Rydych chi'n gofalu am berson sy'n defnyddio gwasanaethau'r Bwrdd Iechyd
• Rydych chi'n aelod o staff y Bwrdd Iechyd
• Rydych chi'n rhan o sefydliad sydd â diddordeb yng ngwasanaethau'r Bwrdd Iechyd
Mae Siarad Iechyd / Talking Health yn rhoi cyfle i aelodau ddarganfod mwy am wasanaethau'r Bwrdd Iechyd. Rydym yn gwerthfawrogi eich barn ac eisiau i chi gymryd rhan.
Bydd aelodau hefyd yn derbyn gwybodaeth am wasanaethau iechyd, a byddant yn gallu cymryd rhan mewn trafodaethau parhaus am faterion iechyd trwy gymryd rhan mewn digwyddiadau, paneli darllenwyr, grwpiau ffocws a chwblhau arolygon.
Mae paneli ‘darllenwyr’, sy’n cynnwys aelodau Siarad Iechyd / Talking Health, yn ein helpu i sicrhau bod y wybodaeth a ddarparwn, fel taflenni, yn glir, yn hawdd ei defnyddio ac yn hawdd ei deall i gleifion a’r cyhoedd.
Ymunwch â Siarad Iechyd / Talking Health gan naill ai:
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu hoffent ymuno â chynllun Siarad Iechyd / Talking Health, cysylltwch â ni:
E-bostiwch: hyweldda.ymgysylltu@wales.nhs.uk
Ysgrifennwch atom: FREEPOST HYWEL DDA HEALTH BOARD
Ffoniwch: 01554 899 056.