Holiadur Meddygfa Tyddewi - dyfodol gwasanaethau i gleifion cofrestredig
Mae'r Bwrdd Iechyd yn gweithio gyda rhanddeiliaid i ddod o hyd i ateb ar gyfer sut y gellir parhau i ddarparu gwasanaethau i gleifion ar ôl mis Hydref 2024. Mae ymdrechion diweddar gan y Feddygfa i ddod o hyd i Feddyg Teulu partner arall i rannu'r cyfrifoldebau a'r llwyth gwaith a ysgwyddwyd gan Dr Riley wedi methu, a dyw dim Meddygfeydd Teulu annibynnol lleol heb ddangos diddordeb.
Gall Meddygfeydd Teulu bychain ag un meddyg gael brofi trafferthion gyda phwysau busnes a staffio sy'n golygu eu bod mewn perygl o ddod yn anghynaladwy. Yn anffodus, terfynwyd contract Meddygfa Solfach a Meddygfa Tyddewi o fewn y deunaw mis diwethaf. Mae rhywfaint o ansicrwydd hefyd a fyddai adeilad Meddygfa Tyddewi ar gael i’w brydlesu unwaith y daw’r contract presennol i ben.
Mae gan y Bwrdd Iechyd gyfrifoldeb i sicrhau bod pob claf yn parhau i allu cyrchu Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol. Mae’r Panel sy’n ystyried terfynu’r contract wedi argymell gwasgaru’r rhestr cleifion, a hynny dan reolaeth, ddiwedd mis Hydref. Golyga hyn y byddai'r holl gleifion yn cael eu dyrannu i'r feddygfa agosaf atynt, ac ar gyfer y mwyafrif helaeth o gleifion y feddygfa agosaf yw Meddygfa Solfach. Byddai hyn yn creu un Feddygfa a fyddai’n fwy o faint, yn fwy sefydlog ac yn gadarnach ar gyfer y dyfodol. Teimlai'r Panel mai dyma'r opsiwn mwyaf ymarferol i sicrhau bod cleifion yn gallu parhau i gyrchu gwasanaethau meddyg teulu yn yr ardal. Mae’n bwysig nodi nad oes unrhyw benderfyniad wedi’i wneud ar hyn o bryd a bod hwn yn argymhelliad sy’n destun penderfyniad y Bwrdd yn ddiweddarach yr haf hwn yn Dilyn ymgysylltu â’r cyhoedd a rhanddeiliaid.
Gan fod Meddygfa Solfach yn Feddygfa a Reolir gan y Bwrdd Iechyd, pe bai’r Bwrdd yn cefnogi’r cynnig i wasgaru, byddai’r Feddygfa gyfun yn cael ei gweithredu gan y Bwrdd Iechyd trwy gyfnod o drawsnewid gofalus a gallai olygu dod â staff y ddwy feddygfa ynghyd o fis Tachwedd 2024. Byddai'r Feddygfa newydd yn cynnig gwasanaethau tebyg i'r hyn oedd ar gael yn y ddwy feddygfa’n flaenorol a byddai'n ddigon mawr i allu adeiladu gweithlu mwy amrywiol ac arbenigol i ddiwallu anghenion y boblogaeth y byddai'n ei gwasanaethu. Y gobaith yw y bydd y Feddygfa gyfun hon yn y pen draw yn dychwelyd i fod yn Feddygfa Contractwr Annibynnol yn y dyfodol.
Yn y tymor byr a chanolig, mae'n bosibl y byddai angen i'r feddygfa gyfun newydd weithredu'n bennaf o Feddygfa Solfach oherwydd ei bod yn llawer mwy ac wedi'i adeiladu'n bwrpasol, gyda digon o le mewnol a pharcio. Mae’r potensial i ddarparu rhai gwasanaethau o rywle addas yn Nhyddewi yn cael ei ystyried.
Er y byddai'r mwyafrif helaeth o gleifion sydd wedi'u cofrestru gyda Meddygfa Tyddewi ar hyn o bryd yn cael eu dyrannu i Feddygfa Solfach ym mis Hydref, mae'n bosibl y bydd y nifer fechan o gleifion sy'n byw'n nes at Abergwaun neu Hwlffordd nag i Solfach yn cael eu trosglwyddo i feddygfa arall sy’n nes atynt na Meddygfa Solfach (yn seiliedig ar amser gyrru).
Bydd y penderfyniad ar sut i ddarparu gwasanaethau o fis Tachwedd 2024 ymlaen yn cael ei wneud gan y Bwrdd yn ddiweddarach yr haf hwn. Cyn hyn, mae'r Bwrdd Iechyd am ddeall sut y gallai'r argymhelliad hwn i wasgaru'r rhestr cleifion effeithio arnoch chi.
Mae'r adborth yn ddienw. Cyflwynwch eich barn erbyn 19 Mehefin 2024. Bydd yr holl adborth yn cael ei goladu a bydd yn rhan bwysig o'r ystyriaeth a'r penderfyniadau a wneir gan y Bwrdd Iechyd ar sut y caiff gwasanaethau eu darparu o fis Hydref ymlaen.
Llenwch yr holiadur monitro cydraddoldeb hefyd, gan fod hyn yn ein helpu i wneud yn siŵr ein bod yn casglu barn o bob rhan o'r gymuned.
Diolch yn fawr.
