Meddygfa Tyddewi - dyfodol gwasanaethau i gleifion cofrestredig
Mae'r ymgysylltu hwn bellach wedi cau. Diolch am gymryd rhan.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cydweithio â Meddygfa Tyddewi yng Ngogledd Sir Benfro i sicrhau y bydd gwasanaethau meddygon teulu yn parhau i gael eu darparu yn yr ardal yn dilyn penderfyniad y Feddygfa i roi'r gorau i'w chytundeb Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol.
Gwnaethpwyd y penderfyniad gan y partner meddyg teulu i roi’r gorau i’r gytundeb gyda'r bwrdd iechyd.
Ar gyfer cleifion cofrestredig mae hyn yn golygu y bydd gofal yn parhau i gael ei ddarparu fel arfer gan yr un tîm yn y Practis tan ddiwedd 31 Hydref 2024. Cynghorir cleifion i barhau i gofrestru gyda'r Practis tra bod cynlluniau tymor hwy yn cael eu datblygu.
Yn y cyfamser, bydd cleifion yn cael eu gwahodd i rannu eu barn ar sut y gellir parhau i ddarparu'r gwasanaethau hyn ar ôl diwedd mis Hydref.
Cynhelir y cyfnod ymgysylltu hwn rhwng 13 Mai i 19 Mehefin 2024. Gall cleifion ac aelodau o'r gymuned ehangach ddweud eu dweud mewn amryw ffyrdd:
- Mynychu digwyddiad galw heibio ddydd 14 Mehefin 2024, 2pm tan 7pm yn Neuadd y Ddinas Tyddewi, Prif Stryd, Tyddewi, SA62 6SD
- Llenwi holiadur: mae blychau casglu ar gyfer holiaduron ym Meddygfa Ty Ddewi neu Fferyllfa Gymunedol Well. Gall cleifion hefyd eu dychwelyd drwy eu postio i FREEPOST HYWEL DDA HEALTH BOARD. Cwblhewch yr holiadur monitro cydraddoldeb hefyd, gan fod hyn yn ein helpu i sicrhau ein bod yn casglu safbwyntiau o bob rhan o'r gymuned. Mae'r ddau holiadur yn ddienw.
- Dros y ffôn i Hyb Cyfathrebu’r Bwrdd Iechyd ar 0300 303 8322 (opsiwn 5)
- Trwy e-bost at ask.hdd@wales.nhs.uk
- Holiadur ar-lein isod drwy ein gwefan ‘Dweud Eich Dweud’ yn www.dweudeichdweud.biphdd.cymru.nhs.uk
Rhowch adborth ar eich barn erbyn Dydd Mawrth 19 Mehefin 2024.
Bydd yr holl adborth yn cael ei goladu a bydd yn rhan bwysig o’r ystyriaeth a’r penderfyniadau a wneir gan y Bwrdd Iechyd ar sut y caiff gwasanaethau eu darparu o fis Hydref ymlaen.
Mae’r Bwrdd Iechyd yn gwerthfawrogi’r gefnogaeth barhaus a roddir gan y gymuned i’r tîm ym Meddygfa Dewi Sant l yn ystod y cyfnod heriol hwn.