Meddygfa'r Sarn

Rhannu Meddygfa'r Sarn ar Facebook Rhannu Meddygfa'r Sarn Ar Twitter Rhannu Meddygfa'r Sarn Ar LinkedIn E-bost Meddygfa'r Sarn dolen

Wedi cau: Mae'r arolwg hwn wedi'i gwblhau.

Meddygfa'r Sarn – rhannwch eich barn fel claf

Mae Meddygfa'r Sarn yn cael ei reoli gan y Bwrdd Iechyd ar hyn o bryd ac mae'n ddibynnol ar feddygon teulu locwm am staffio meddygol, ac mae’r safle yn fach sy'n cyfyngu ar y gwasanaethau y gellir eu cynnig.

Fis diwethaf yn ei gyfarfod, trafododd y Bwrdd Iechyd argymhelliad gan banel y dylid gwasgaru'r rhestr cleifion dros feddygfeydd cyfagos. Golyga hyn y byddai'r Bwrdd Iechyd yn trosglwyddo eich cofrestriad i'r feddygfa agosaf nesaf i'ch cyfeiriad cartref, a byddai Meddygfa'r Sarn yn cau. Yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw, gallai hyn fod i Feddygfa Nant-y-Glo ym Mhontyperem, Meddygfa Minafon yng Nghydweli neu Feddygfa Gelli Onn yn Llanelli.

Mae'r Bwrdd wedi penderfynu ymgysylltu â chleifion a'r gymuned leol ar yr argymhelliad hwn cyn gwneud penderfyniad terfynol, a bydd hyn yn caniatáu i aelodau'r Bwrdd gael gwell dealltwriaeth o’r effaith bosib ar gleifion o wasgaru’r rhestr, a'r hyn y gellid ei roi ar waith i gefnogi cleifion. Bydd Meddygfa'r Sarn yn aros ar agor fel arfer wrth i ni weithio drwy'r broses hon.

Felly, rydym yn ymgysylltu â chleifion a rhanddeiliaid lleol ynglŷn â'r argymhelliad hwn am gyfnod o wyth wythnos, rhwng 9 Chwefror a 6 Ebrill 2026. Rydym eisiau clywed eich barn fel claf ar sut y byddai trosglwyddo i'r feddygfa agosaf nesaf yn effeithio arnoch chi, yn ogystal â chlywed yr hyn sy'n bwysig i chi am y gwasanaethau sydd eu hangen arnoch mewn meddygfa.

Mae blychau casglu ar gyfer yr holiadur papur ym Meddygfa'r Sarn a Fferyllfa Gymunedol Pontiets.

Mae'r Bwrdd Iechyd hefyd yn cynnal dau ddigwyddiad galw heibio ymgysylltu â'r cyhoedd ar gyfer trafodaethau mewn grwpiau bach gyda chynrychiolwyr y Bwrdd Iechyd, ac rydym yn gobeithio y gallwch ymuno â ni yn un o'r rhain:

Dyddiad Dydd Mawrth 24 Chwefror, 1pm-6.30pm (galw-heibio unrhyw bryd)

Lleoliad Neuadd Pontiets, Heol Y Meinciau, Pontiets SA15 5TR

Dyddiad Dydd Mawrth 3 Mawrth, 3pm-6.00pm (galw-heibio unrhyw bryd)

Lleoliad Neuadd Goffa Pontyberem, 9 Heol Nant-y-Glo, Pontyberem SA15 5HU

Dyddiad Dydd Mawrth 31 Mawrth, 2pm-6.30pm (galw-heibio unrhyw bryd)

Lleoliad Neuadd Carwe, Carwe SA17 4HL

Fel arall, cysylltwch â’r Bwrdd Iechyd i rannu eich adborth:

Gallwch hefyd rannu eich adborth â Llais yn www.llaiswales.org

Cofiwch ddweud eich dweud erbyn dydd Llun 6 Ebrill 2026. Bydd yr holl adborth a ddaw i law erbyn y dyddiad cau hwn yn cael ei gasglu ynghyd a'i adrodd i'r Bwrdd cyn y cyfarfod ym mis Mai 2026 pan yr ystyrir yr argymhelliad.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn gwerthfawrogi'r gefnogaeth barhaus a roddir gan y gymuned i'r tîm ym Meddygfa'r Sarn yn ystod y cyfnod heriol hwn.

Mae fformat print bras ar gael ym Meddygfa'r Sarn.

  • Wedi cau: Mae'r arolwg hwn wedi'i gwblhau.

    Mae eich barn yn bwysig i ni felly sbariwch ychydig funudau i gwblhau'r arolwg hwn. Mae'r arolwg yn ddienw. Ni fydd unrhyw wybodaeth a roddwch yn gysylltiedig â chi. 

    Bydd yr arolwg hwn yn cau ar 6 Ebrill 2026 – ni fydd holiaduron a dderbynnir ar ôl y dyddiad hwn yn cael eu cynnwys.  

    Wedi cau: Mae'r arolwg hwn wedi'i gwblhau.

    Rhannu Holiadur Cleifion Meddygfa'r Sarn ar Facebook Rhannu Holiadur Cleifion Meddygfa'r Sarn Ar Twitter Rhannu Holiadur Cleifion Meddygfa'r Sarn Ar LinkedIn E-bost Holiadur Cleifion Meddygfa'r Sarn dolen