Holiadur Strôc – Cam 2 Cynllun Gwasanaethau Clinigol

Rhannu Holiadur Strôc – Cam 2 Cynllun Gwasanaethau Clinigol ar Facebook Rhannu Holiadur Strôc – Cam 2 Cynllun Gwasanaethau Clinigol Ar Twitter Rhannu Holiadur Strôc – Cam 2 Cynllun Gwasanaethau Clinigol Ar LinkedIn E-bost Holiadur Strôc – Cam 2 Cynllun Gwasanaethau Clinigol dolen

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu gwasanaethau iechyd i bobl ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Yn ogystal, mae rhai o’n gwasanaethau yn cael eu defnyddio gan gymunedau yn ardaloedd cyfagos de Gwynedd, a rhannu o Bowys ac Abertawe/Castell-nedd Port Talbot. Mae ail gam yr ymgynghoriad ar y Cynllun Gwasanaethau Clinigol yn ymwneud yn benodol â sut byddwn yn darparu gwasanaethau strôc yn y dyfodol.

Pam mae angen i wasanaethau strôc newid

Mae'n rhaid i ni wella'r safonau gofal a ddarparwn a'r canlyniadau y mae ein cleifion yn eu profi ar gyfer ein holl gymunedau. Mae angen i ni hefyd fynd i'r afael â heriau staffio parhaus sy'n ei gwneud hi'n anodd darparu'r gwasanaeth o ansawdd uchel y mae ein poblogaeth yn ei haeddu. Ar hyn o bryd, nid yw ein gwasanaethau strôc yn bodloni safonau clinigol ac nid oes gennym staffio arbenigol saith diwrnod yr wythnos. Gall hyn arwain at ganlyniadau i gleifion nad ydynt mor dda ag y gallent fod. Dyma pam mae angen i ni newid y ffordd y mae gwasanaethau strôc yn cael eu darparu fel eu bod yn ddiogel, yn gynaliadwy, yn hygyrch ac yn garedig i gleifion a staff.

Pam rydyn ni'n gofyn am eich barn ar wasanaethau strôc

Adolygodd ein Bwrdd bopeth a glywodd yn ystod yr ymgynghoriad ar y Cynllun Gwasanaethau Clinigol: adborth a syniadau amgen gan ein cymunedau, y dystiolaeth sydd ar gael gan gynnwys ystyriaethau gweithlu a gofynion diogelwch cleifion. Wrth ystyried yr holl wybodaeth hon, nododd y Bwrdd opsiwn a ffefrir ar gyfer sut y gellid darparu gwasanaethau strôc yn y dyfodol. Daeth yr opsiwn hwn o ganlyniad i gyfuno dau syniad amgen a ddaeth o'r gymuned mewn ymateb i'r ymgynghoriad.

Er bod yr heriau a'r problemau yn aros yr un fath, mae'r syniad newydd hwn yn wahanol i'r opsiynau y gwnaethom ymgynghori arnynt i ddechrau. Rydym am ddeall barn ein staff, cleifion, teuluoedd, gofalwyr a rhanddeiliaid, cyn i'r Bwrdd wneud penderfyniad terfynol ar y model ar gyfer gwasanaethau strôc i’r dyfodol yn Hywel Dda.

Mae gan y Bwrdd opsiwn a ffefrir, sef yr opsiwn yr ydym yn ceisio barn arno nawr drwy'r ymgysylltu hwn. Fodd bynnag, rydym hefyd eisiau deall a yw'n well gennych un o'r opsiynau blaenorol a ystyriwyd yng nghyfarfod eithriadol y Bwrdd ym mis Chwefror, a'r rhesymau dros hyn.

Yr opsiwn a ffefrir

Uned strôc yn Glangwili gyda staffio arbenigol 24 awr, saith diwrnod yr wythnos. Byddai Bronglais, Tywysog Philip a Llwynhelyg yn dod yn ysbytai trin a throsglwyddo. Byddai cleifion strôc yn cael eu trosglwyddo i Glangwili o'r ysbytai hyn ar gyfer eu gofal strôc acíwt. Hefyd yn Bronglais byddai uned adsefydlu strôc, sy'n golygu y byddai cleifion sy’n byw’n agosach i Bronglais yn cael eu trosglwyddo yn ôl yno o Glangwili ar gyfer eu hadsefydlu yn benodol ar gyfer strôc.

Rydym yn sôn am drin a throsglwyddo yn yr opsiwn a ffefrir. Trin a throsglwyddo mewn gofal strôc yw pan fydd rhywun lle’r amheuir strôc yn cael ei gludo (neu'n dod) i'w Hadran Argyfyngau neu Uned Asesu Meddygol Acíwt agosaf. Maen nhw’n cael asesiad brys ac unrhyw driniaeth amser-gritigol (megis thrombolysis) yno. Os oes angen gofal strôc acíwt dan arweiniad arbenigol arnynt wedyn, maen nhw’n cael eu trosglwyddo, mewn cludiant priodol (ambiwlans fel arfer) i uned strôc acíwt, neu i ganolfan thrombectomi ym Mryste neu Gaerdydd.

Rydyn ni eisiau i chi ddweud wrthym:

  • a ydych chi'n cefnogi'r opsiwn a ffefrir a pham
  • os nad ydych chi’n cefnogi’r opsiwn a ffefrir, a fyddai opsiwn a ystyriwyd yn flaenorol gan y Bwrdd yn gweithio'n well a pham
  • unrhyw beth arall rydych chi'n meddwl y mae angen i ni ei ystyried er mwyn i wasanaethau strôc weithio'n well yn y dyfodol, gan gynnwys unrhyw gamau lliniaru neu welliannau, ac effeithiau posibl ar y Gymraeg os yw'r gwasanaeth yn gweithredu'n wahanol yn y dyfodol

I gael gwybodaeth am yr ail gam hwn o'r ymgynghoriad ar wasanaethau strôc, darllenwch y ddogfen ymgynghori sy'n gysylltiedig â'r holiadur hwn a/neu ewch ar-lein i: biphdd.gig.cymru/ymgynghoriad-stroc

I roi eich adborth, cwblhewch y holiadur ar-lein isod erbyn dydd Sul 26 Gorffennaf 2026.

Os hoffech gael copi papur neu os oes angen fformat mwy hygyrch arnoch, ffoniwch ni ar 0300 303 8322 (pris galwad leol) a dewis opsiwn 5 'gwasanaethau eraill', neu ebostiwch hyweldda.ymgysylltu@wales.nhs.uk

Bydd barn pobl sy'n ymateb fel unigolyn yn ddienw. Peidiwch â chynnwys gwybodaeth bersonol adnabyddadwy amdanoch chi'ch hun (neu unrhyw un arall) yn y blychau testun rhydd, dim ond eich barn sydd ei angen. Gellir rhannu adborth gan gynrychiolwyr sefydliadau, neu rywun sy'n ymateb mewn swyddogaeth swyddogol.

Byddwn yn defnyddio eich barn, ochr yn ochr â'r dystiolaeth ategol yr ydym wedi'i chasglu drwy gydol pob cam o'r rhaglen Cynllun Gwasanaethau Clinigol i lywio ein penderfyniad terfynol ar y model gwasanaeth ar gyfer gwasanaethau strôc i’r dyfodol yn Hywel Dda. Bydd eich adborth hefyd yn ein helpu i wneud y gorau o'r opsiwn a ffefrir a deall yn well sut y gallwn leihau unrhyw effeithiau negyddol ar gymunedau.

Mae'r holl gwestiynau yn ddewisol. Bydd yr holl wybodaeth a ddarperir gennych yn cael ei phrosesu yn unol â deddfwriaeth diogelu data a bydd yn cael ei defnyddio i lywio'r cam hwn o'r ymgynghoriad. Bydd unrhyw wybodaeth bersonol adnabyddadwy yn cael ei chadw am ddim mwy na blwyddyn ar ôl i'r penderfyniadau gael eu cwblhau. I gael rhagor o wybodaeth, gweler https://biphdd.gig.cymru/ hysbysiadau-preifatrwydd/

  • Darllenwch y ddogfen ymgynghori cam 2 gwasanaethau strôc a'r dogfennau ategol i gael rhagor o wybodaeth. Mae'r rhain yn cynnwys yr hyn a glywsom yn ystod yr ymgynghoriad ar y Cynllun Gwasanaethau Clinigol, teithio, cyllid ac amserlenni ar gyfer gweithredu.

    Cliciwch yma i gwblhau'r holiadur
    Rhannu Holiadur Strôc – cam 2 Cynllun Gwasanaethau Clinigol ar Facebook Rhannu Holiadur Strôc – cam 2 Cynllun Gwasanaethau Clinigol Ar Twitter Rhannu Holiadur Strôc – cam 2 Cynllun Gwasanaethau Clinigol Ar LinkedIn E-bost Holiadur Strôc – cam 2 Cynllun Gwasanaethau Clinigol dolen
Diweddaru: 02 Meh 2026, 02:04 PM