Ein Strategaeth

Rhannu Ein Strategaeth ar Facebook Rhannu Ein Strategaeth Ar Twitter Rhannu Ein Strategaeth Ar LinkedIn E-bost Ein Strategaeth dolen

Ein Strategaeth

Ymunwch â'n sgwrs ar iechyd a lles.

Rhannwch eich barn ar yr hyn sydd bwysicaf i'ch iechyd a'ch lles. Ar hyn o bryd, mae gennym un cwestiwn yr hoffem i chi ei ystyried:

“Beth sy’n bwysig i chi er mwyn byw bywyd iach?”

Rhannwch eich barn a'ch syniadau erbyn 31 Awst drwy eu rhoi yn y blwch sylwadau yma.

Rydym am i bawb yn ein cymunedau fyw bywydau iachach sy'n cael eu byw'n dda.

Yn 2018, ochr yn ochr â'n cymunedau, fe wnaethom ddatblygu ein strategaeth Canolbarth a Gorllewin Cymru Iachach, i arwain ein gwasanaethau iechyd a gofal yn Hywel Dda dros yr 20 mlynedd nesaf, gan sicrhau y gallwn ni a chenedlaethau'r dyfodol fyw'n dda. Mae ein strategaeth yn gosod y cyfeiriad cyffredinol ar gyfer iechyd a gofal yng nghanolbarth a gorllewin Cymru (Sir Gâr, Ceredigion, a Sir Benfro).

Dros y chwe blynedd diwethaf, rydym wedi cymryd camau sylweddol tuag at gyflawni nodau ein strategaeth. Er enghraifft, rydym wedi:

  • cefnogi mwy o gleifion yn ein cymunedau
  • lleihau ein swyddi nyrsio gwag yn sylweddol trwy recriwtio rhyngwladol a chadw gwell
  • cyfuno rhai o'n gwasanaethau i weithio'n well gyda'n gilydd
  • ymuno â Siarter y Model Cymdeithasol ar gyfer Iechyd a Llesiant (SMfHW)

Fodd bynnag, rydym hefyd wedi wynebu nifer o heriau sydd wedi effeithio ar ein gallu i gyflawni'r strategaeth, gan gynnwys:

  • pandemig COVID-19
  • argyfwng costau byw
  • rhestrau aros hir
  • poblogaeth sy'n heneiddio
  • heriau recriwtio staff meddygol

Gyda'r heriau hyn mewn golwg, rydym yn edrych i sicrhau bod ein strategaeth yn parhau i'ch cefnogi i fyw bywyd iachach, ochr yn ochr â darparu gofal diogel, o ansawdd a chynaliadwy ar draws lleoliadau sylfaenol, cymunedol ac ysbytai, nawr ac yn y dyfodol.

Rydym am glywed gennych!

Rydym yn eich gwahodd i rannu eich meddyliau a'ch syniadau ar yr hyn y dylem ei ystyried wrth i ni barhau i weithredu ein strategaeth. Mae eich mewnbwn yn amhrisiadwy i'n helpu i baratoi ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol a sicrhau eu bod yn diwallu anghenion ein cymunedau. Rydym wedi ymrwymo i ymgysylltu â staff, y cyhoedd a phartneriaid i gyfrannu'n llawn, wrth i ni edrych i adolygu ein strategaeth Canolbarth a Gorllewin Cymru Iachach.

Diolch i chi am fod yn rhan o'r sgwrs bwysig hon. Gyda'n gilydd, gallwn lunio dyfodol iachach i Ganolbarth a Gorllewin Cymru.

Diweddaru: 26 Meh 2025, 04:24 PM