Dweud eich dweud am y Celfyddydau ac Iechyd yn Hywel Dda

Rhannu Dweud eich dweud am y Celfyddydau ac Iechyd yn Hywel Dda ar Facebook Rhannu Dweud eich dweud am y Celfyddydau ac Iechyd yn Hywel Dda Ar Twitter Rhannu Dweud eich dweud am y Celfyddydau ac Iechyd yn Hywel Dda Ar LinkedIn E-bost Dweud eich dweud am y Celfyddydau ac Iechyd yn Hywel Dda dolen

Rhowch eich barn i ni.

Sut gallai’r celfyddydau helpu i wella iechyd a llesiant pobl ar draws Hywel Dda? Dywedwch wrthym beth yw eich barn yn y tab Dweud eich Dweud isod.

Sut gallai celf a cherddoriaeth wella ansawdd eich profiad yn yr ysbyty neu’ch profiad gofal? Dywedwch wrthym beth rydych am ei weld yn digwydd ar ein Bwrdd Negeseuon isod.

Sut gallai’r celfyddydau a chreadigrwydd fod wedi’ch helpu? Rhannwch eich straeon yn y tab cwestiynau isod.

Rhannwch eich stori â ni.

Pam ydyn ni’n meddwl am y Celfyddydau ac Iechyd?

Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda mae gennym weledigaeth

Rhowch eich barn i ni.

Sut gallai’r celfyddydau helpu i wella iechyd a llesiant pobl ar draws Hywel Dda? Dywedwch wrthym beth yw eich barn yn y tab Dweud eich Dweud isod.

Sut gallai celf a cherddoriaeth wella ansawdd eich profiad yn yr ysbyty neu’ch profiad gofal? Dywedwch wrthym beth rydych am ei weld yn digwydd ar ein Bwrdd Negeseuon isod.

Sut gallai’r celfyddydau a chreadigrwydd fod wedi’ch helpu? Rhannwch eich straeon yn y tab cwestiynau isod.

Rhannwch eich stori â ni.

Pam ydyn ni’n meddwl am y Celfyddydau ac Iechyd?

Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda mae gennym weledigaeth a rennir gyda’n cymunedau i ni fyw bywydau iach, llawen.

Mae ein strategaeth ‘Canolbarth a Gorllewin Cymru Iachach: Cenedlaethau’r Dyfodol yn Byw’n Dda’ yn rhannu ein gweledigaeth ar gyfer gwella iechyd a lles ar gyfer ein cymunedau.

Fel rhan o’r gwaith hwn, rydym yn awyddus i adeiladu ar y wybodaeth a’r sylfaen dystiolaeth gynyddol sy’n dweud wrthym fod gan y celfyddydau rôl bwerus i’w chwarae wrth gefnogi iechyd a lles.

Credwn y dylai pawb allu dechrau'n dda, byw'n dda a heneiddio'n dda.

Mae bod yn iach yn ymwneud â mwy nag iechyd da, mae’n ymwneud â sut rydym yn teimlo amdanom ein hunain a sut rydym yn cysylltu â’n gilydd a’n hamgylchedd.

Rydym yn datblygu gweledigaeth celfyddydau mewn iechyd, lle mae creadigrwydd wrth galon ein holl wasanaethau, gan helpu cleifion a’u teuluoedd, cymunedau a staff, i wella eu hiechyd a’u lles drwy gymryd rhan yn y celfyddydau.

Rydym yn awyddus i ddatblygu prosiectau celfyddydau ac iechyd lle mae manteision iechyd a lles profedig megis:

Gwella symudedd, cydbwysedd ac atal codymau trwy ddawns.

Lleihau unigrwydd ac arwahanu cymdeithasol trwy adrodd straeon

Cefnogi cleifion â chyflyrau niwrolegol fel Parkinsons a'r rhai yr effeithir arnynt gan strôc, yn ogystal â'u gofalwyr

Canu er mwyn gysylltu a chodi pobl, gwella cof, iechyd yr ysgyfaint a chanlyniadau i gleifion Covid hir.

Mae celfyddydau gweledol yn cael eu defnyddio i wella iechyd meddwl plant, pobl ifanc, oedolion a phobl hŷn sy’n byw gyda dementia – gan helpu pob oed i feithrin sgiliau ymdopi am oes.

Mae’r celfyddydau’n ymestyn y tu hwnt i weithgareddau creadigol ac mae ganddynt sylfaen yng ngwead ein hadeiladau – gall y celfyddydau ein helpu i greu mannau gofal iechyd lle gall cleifion wella’n gynt a lle mae staff gofal iechyd eisiau gweithio.

Gall y celfyddydau greu amgylcheddau sy’n codi ein hysbryd, yn ein lleddfu a’n cysuro ac yn ein helpu i deimlo’n well.

Mae’r celfyddydau yn ein helpu i goffáu, adlewyrchu a nodi’r rhai yr ydym wedi’u caru a’u colli.

Rydyn ni eisiau gwybod beth yw eich barn chi.

Sut gallai’r celfyddydau helpu i wella iechyd a lles pobl ledled Hywel Dda?

Rydym am i chi fod yn rhan o’r sgwrs am sut y gallwn wreiddio’r celfyddydau ar draws Hywel Dda fel y gallwn helpu i greu cymuned fywiog y gallwn i gyd ffynnu ynddi drwy gydol pob cyfnod o fywyd.

Peidiwch â phoeni os nad yw cymryd rhan yn ddigidol yn addas i chi.

Rydym yn hapus i ddod o hyd i ffordd arall i'ch helpu i gymryd rhan gan ein bod yn awyddus i ddysgu beth yw eich barn. Cysylltwch â’n Cydlynydd Celfyddydau mewn Iechyd Kathryn Lambert kathryn.lambert@wales.nhs.uk os hoffech gael gwybod mwy neu os hoffech i ni ddod i rannu gyda’ch grŵp neu gymuned. Ffôn 0300 303 8322 Pwyswch 5 am unrhyw wasanaethau eraill

Sail dystiolaeth:

Mae corff cynyddol o dystiolaeth o rôl y celfyddydau wrth wella iechyd a lles. Mae peth tystiolaeth yn y Gymraeg fel y rhai a gyflwynir ar y tab dolenni pwysig. Ond mae yna hefyd ddogfennau eraill o arwyddocâd cenedlaethol sydd ond ar gael yn yr iaith Saesneg. Gweler cwpl isod:

A report from the World Health Organisation

A report from Departments of Digital, Culture, Media and Sport on the evidence summary for policy


Storïau

Dywedwch wrthym sut mae celfyddydau wedi eich helpu chi. Gallwch rannu eich lluniau a’ch fideos yma. 

Diolch yn fawr iawn.

Mae angen i chi fod wedi mewngofnodi i rannu eich stori.

Mae angen pob maes sydd wedi'i farcio â seren (*).

  • Does dim straeon i'w dangos. Pam nad ydych chi'n rhannu un?
Diweddaru: 06 Chwef 2023, 01:46 PM