Clwstwr De Sir Benfro

Rhannu Clwstwr De Sir Benfro ar Facebook Rhannu Clwstwr De Sir Benfro Ar Twitter Rhannu Clwstwr De Sir Benfro Ar LinkedIn E-bost Clwstwr De Sir Benfro dolen

Consultation has concluded

Beth sydd ar gael i fy helpu gyda fy iechyd a lles yn Ne Sir Benfro? 

Mae ardal De Sir Benfro yn ffinio â Sir Gaerfyrddin i'r gorllewin a Cheredigion i'r de a'r arfordir. Mae’r sir yn gartref i Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac yn gyrchfan prysur i dwristiaid lle gall poblogaeth rhai trefi ddyblu mewn maint yn ystod y cyfnodau gwyliau.

Mae ystod o wasanaethau yn Ne Sir Benfro a all gefnogi eich iechyd a lles.

Beth yw Clwstwr?

Weithiau byddwch yn clywed eich ardal yn cael ei disgrifio fel ‘Clwstwr’. Mae hwn yn disgrifio sut mae llawer o wasanaethau lleol sy'n ymwneud ag iechyd a gofal mewn ardal ddaearyddol yn cydweithio. Y nod yw cydgysylltu llesiant pobl a chymunedau yn well.

Mae gan Dde Sir Benfro boblogaeth o 54,528 o bobl ar draws 24,100 o aelwydydd.

Mae gan Glwstwr De Sir Benfro: 

  • 13 fferyllfa gymunedol   
  • 5 practis optometrig (optegwyr)
  • 4 deintyddfa ac 1 practis orthodontig
  • 5 practis meddyg teulu gyda 3 meddygfa gangen
  • 2 ysbyty cymunedol (Ysbyty Bwthyn Dinbych-y-pysgod ac Ysbyty De Sir Benfro)
  • 21 cartref nyrsio a phreswyl
  • 4 rhwydwaith cymunedol integredig
  • 1 hyb cymunedol Sir Benfro
  • 1 canolfan galw heibio (Ysbyty Bwthyn Dinbych-y-pysgod)

Gallwch ddarganfod sut y gall rhai o’r gwasanaethau hyn eich helpu, a pha un sydd orau i’ch helpu mewn gwahanol amgylchiadau, drwy fynd i’n hadnodd gwe a chyfres fideos Fy Iechyd, Fy Newis yma (agor mewn dolen newydd).

Mae amrywiaeth o wasanaethau cymunedol sy’n darparu gofal a chymorth yn eich cartref eich hun neu’n agos ato.

Y nod yw darparu'r rhan fwyaf o'ch gofal mor agos i'ch cartref â phosibl. Gall hyn eich cadw’n iach am fwy o amser ac osgoi gorfod teithio i’r ysbyty pan nad oes angen. Mae'r timau hyn yn helpu i'ch cael chi adref o'r ysbyty yn gyflymach, pan fyddwch chi'n barod.

Rydym hefyd am i chi gael eich cefnogi i wneud dewisiadau am eich iechyd a'ch lles eich hun a chael eich grymuso a'ch cefnogi i fyw bywyd o'r ansawdd gorau.

Am ein poblogaeth 

Mae ychydig dros 99% o boblogaeth y clwstwr hwn yn byw mewn ardal wledig. Mae'r ardal yn gyrchfan prysur i dwristiaid, a gall y boblogaeth bron ddyblu mewn maint yn ystod misoedd yr haf.

Mae pobl yn byw gyda phroblemau iechyd lluosog. Mae hyn yn golygu y gallant fod angen iechyd a gofal am lawer o wahanol resymau, a chan wahanol weithwyr proffesiynol ar yr un pryd.

Yng Nghlwstwr De Sir Benfro rydym yn gwybod mai’r risgiau/cyflyrau iechyd mwyaf yw:

  • clefyd anadlol
  • clefyd y galon
  • eiddilwch
  • iechyd meddwl

Isod mae rhai enghreifftiau o brosiectau a ariennir gan y clwstwr sy’n anelu at gefnogi iechyd a lles y boblogaeth leol:

  • Gwella Iechyd Plant – Mae gennym ddau brosiect Clwstwr ar waith. Un yw Gwella Asthma mewn Ysgolion Cynradd. Y llall yw ein prosiect Iechyd Meddwl Pobl Ifanc ar gyfer plant 5 i 18 oed, sy’n cynnig cymorth iechyd meddwl a lles emosiynol lefel isel.
  • Rhwydwaith Cymunedol Integredig – Mae ein gweithwyr aml-broffesiynol yn gweithio ar draws gwahanol wasanaethau a gyda'i gilydd. Mae’r Rhwydwaith Cymunedol Integredig yn targedu cymorth ar gyfer ein poblogaeth hŷn a phobl â chyflyrau hirdymor, yn arbennig. Mae hyn yn helpu i osgoi derbyniadau diangen ac yn cefnogi cleifion i aros yn eu cymunedau
  • Mae gan bob meddygfa yn yr ardal hon wasanaeth pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ffisiotherapi fel y gall pobl gael yr help sydd ei angen arnynt yn gyflym.
  • Rydym yn bwriadu darparu profion sbirometreg lleol a hawdd eu cyrchu. Mae hyn yn mesur faint o aer rydych chi'n ei anadlu mewn un anadl gorfodol i helpu i wneud diagnosis a monitro rhai cyflyrau yr ysgyfaint. Y nod yw cyflawni dim rhestr aros ar gyfer profion yn y dyfodol.

  • Wedi cau: Mae'r arolwg hwn wedi'i gwblhau.

    Hoffem glywed sut rydych yn defnyddio’r gwasanaethau iechyd a gofal hyn ar hyn o bryd, a’r hyn y byddai ei angen arnoch i gynnal eich llesiant. Hoffem i chi rannu eich profiadau, yr hyn sydd bwysicaf i chi, a'ch gweledigaeth ar gyfer dyfodol gofal iechyd yn eich cymuned. Adborth erbyn 11 Hydref os gwelwch yn dda.

    Consultation has concluded
    Rhannu Clwstwr De Sir Benfro - Holiadur ar Facebook Rhannu Clwstwr De Sir Benfro - Holiadur Ar Twitter Rhannu Clwstwr De Sir Benfro - Holiadur Ar LinkedIn E-bost Clwstwr De Sir Benfro - Holiadur dolen