Clwstwr Aman Gwendraeth

Rhannu Clwstwr Aman Gwendraeth ar Facebook Rhannu Clwstwr Aman Gwendraeth Ar Twitter Rhannu Clwstwr Aman Gwendraeth Ar LinkedIn E-bost Clwstwr Aman Gwendraeth dolen

Consultation has concluded

Beth sydd ar gael i fy helpu gyda fy iechyd a lles yn Aman Gwendraeth?

Mae ardal Aman Gwendraeth yn disgrifio’r ardal sy’n ymestyn o Gydweli yn y gorllewin, mor bell i’r gogledd â Llanarthne ac i fyny Dyffryn Aman i Landdeusant, ac i Lanaman yn y dwyrain.

Mae llawer o wasanaethau wedi’u lleoli yn ardaloedd Rhydaman a Gwendraeth a all eich cefnogi gyda’ch iechyd a’ch lles.

Beth yw Clwstwr?

Weithiau byddwch yn clywed eich ardal yn cael ei disgrifio fel ‘Clwstwr’. Mae hwn yn disgrifio sut mae llawer o wasanaethau lleol sy'n ymwneud ag iechyd a gofal mewn ardal ddaearyddol yn cydweithio. Y nod yw cydgysylltu llesiant pobl a chymunedau yn well.

Mae gan Glwstwr Aman a Gwendraeth boblogaeth o 59,900 o bobl a thua 25,800 o aelwydydd. 

Mae gan Glwstwr Aman a Gwendraeth:

  • 16 fferyllfa gymunedol
  • 5 practis optometrig (optegwyr)
  • 4 deintyddfa
  • 8 practis meddyg teulu gyda 6 meddygfa gangen
  • 1 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman)
  • 12 cartref nyrsio a phreswyl
  • 1 tîm adnoddau cymunedol

Gallwch ddarganfod sut y gall rhai o’r gwasanaethau hyn eich helpu, a pha un sydd orau i’ch helpu mewn gwahanol amgylchiadau, drwy fynd i’n hadnodd gwe a chyfres fideos Fy Iechyd, Fy Newis yma (agor mewn dolen newydd).

Mae amrywiaeth o Wasanaethau Cymunedol eraill sy’n gallu darparu gofal a chymorth yn eich cartref eich hun neu’n agos ato.

Y nod yw darparu'r rhan fwyaf o'ch gofal mor agos i'ch cartref â phosibl. Gall hyn eich cadw’n iach am fwy o amser ac osgoi gorfod teithio i’r ysbyty pan nad oes angen. Mae'r timau hyn yn helpu i'ch cael chi adref o'r ysbyty yn gyflymach, pan fyddwch chi'n barod.

Rydym hefyd am i chi gael eich cefnogi i wneud dewisiadau am eich iechyd a'ch lles eich hun a chael eich grymuso a'ch cefnogi i fyw bywyd o'r ansawdd gorau.

Am ein poblogaeth 

Mae llawer o’n hardal yn wledig, gyda phocedi trefol, ac mae gennym ni fwy o bobl hŷn yn byw yma na rhannau eraill o’r wlad.

Mae pobl yn byw gyda phroblemau iechyd lluosog. Mae hyn yn golygu y gallant fod angen iechyd a gofal am lawer o wahanol resymau, a chan wahanol weithwyr proffesiynol ar yr un pryd.

Yng Nghlwstwr Aman Gwendraeth rydym yn gwybod mai’r risgiau/cyflyrau iechyd mwyaf yw:

  • iechyd meddwl
  • diabetes
  • pwysedd gwaed uchel
  • canser

Isod mae rhai enghreifftiau o brosiectau a ariennir gan y clwstwr sy'n anelu at gefnogi iechyd a lles y boblogaeth leol hon.

  • Mynediad at Wasanaethau Iechyd Meddwl ar gyfer y rhai â phroblemau iechyd meddwl isel i ganolig, na fyddent fel arall yn bodloni'r meini prawf.
  • Gwasanaeth Poen Parhaus i'r rhai sy'n byw mewn poen cronig, gan gefnogi a grymuso pobl i wneud dewisiadau gwell o ran eu ffordd o fyw trwy fynd at wraidd eu poen.
  • Gwasanaeth Dermatoleg Canser y Croen ar gyfer y rhai sydd â math ysgafn o ganser y croen a fyddai fel arall yn gorfod aros yn hir am apwyntiad ysbyty i gael gwared arno.

  • Wedi cau: Mae'r arolwg hwn wedi'i gwblhau.

    Hoffem glywed sut rydych yn defnyddio’r gwasanaethau iechyd a gofal hyn ar hyn o bryd, a’r hyn y byddai ei angen arnoch i gynnal eich llesiant. Hoffem i chi rannu eich profiadau, yr hyn sydd bwysicaf i chi, a'ch gweledigaeth ar gyfer dyfodol gofal iechyd yn eich cymuned. Adborth erbyn 11 Hydref os gwelwch yn dda.

    Consultation has concluded
    Rhannu Clwstwr Aman Gwendraeth - Holiadur ar Facebook Rhannu Clwstwr Aman Gwendraeth - Holiadur Ar Twitter Rhannu Clwstwr Aman Gwendraeth - Holiadur Ar LinkedIn E-bost Clwstwr Aman Gwendraeth - Holiadur dolen