Canolfan Iechyd a Lles Integredig Abergwaun

Rhannu Canolfan Iechyd a Lles Integredig Abergwaun ar Facebook Rhannu Canolfan Iechyd a Lles Integredig Abergwaun Ar Twitter Rhannu Canolfan Iechyd a Lles Integredig Abergwaun Ar LinkedIn E-bost Canolfan Iechyd a Lles Integredig Abergwaun dolen

Rhannwch eich barn am y ganolfan iechyd a lles integredig ar gyfer Abergwaun

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn symud ymlaen gyda chynlluniau i ddatblygu Canolfan Iechyd a Llesiant Integredig Abergwaun yn Sir Benfro.

Byddai'r ganolfan newydd yn cynnal y boblogaeth ar draws gogledd Sir Benfro o Solfach a Thyddewi yn y gorllewin, i Abergwaun a Threfdraeth.

Ein nod hirdymor yw creu model gofal cymunedol integredig sy’n canolbwyntio ar y claf. Yn y pen draw, bydd cymunedau’n gweld iechyd a gofal yn symud o ganolbwyntio ar salwch i wasanaeth sy’n gweithio ar draws ffiniau i atal afiechyd neu ddirywiad

Rhannwch eich barn am y ganolfan iechyd a lles integredig ar gyfer Abergwaun

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn symud ymlaen gyda chynlluniau i ddatblygu Canolfan Iechyd a Llesiant Integredig Abergwaun yn Sir Benfro.

Byddai'r ganolfan newydd yn cynnal y boblogaeth ar draws gogledd Sir Benfro o Solfach a Thyddewi yn y gorllewin, i Abergwaun a Threfdraeth.

Ein nod hirdymor yw creu model gofal cymunedol integredig sy’n canolbwyntio ar y claf. Yn y pen draw, bydd cymunedau’n gweld iechyd a gofal yn symud o ganolbwyntio ar salwch i wasanaeth sy’n gweithio ar draws ffiniau i atal afiechyd neu ddirywiad mewn iechyd, gan ddarparu cymorth yn gynt, a lle bynnag y bo modd, yn nes at adref.

Yr haf hwn, byddwn yn dechrau proses ymgysylltu i rannu ein barn ar y ganolfan arfaethedig, myfyrio ar yr hyn yr ydych wedi’i ddweud wrthym yn flaenorol, a gwrando ar adborth pellach. Rydym wedi ymrwymo i broses barhaus o ymgysylltu â chymunedau a phartneriaid, ac rydym yn gwerthfawrogi eich barn yn fawr. Bydd y broses hon o wrando ar gymunedau yn rhan bwysig o ddatblygu ein hachos busnes, a fydd yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru am y cyllid.

Rhowch eich barn drwy lenwi'r holiadur neu ei bostio ar y bwrdd negeseuon isod.

Mae Canolfan Iechyd a Llesiant Integredig Abergwaun yn cael ei datblygu mewn partneriaeth â Chyngor Sir Penfro, ac mae gwaith yn mynd rhagddo gyda Phartneriaid eraill i archwilio sut y gallwn gydweithio'n agosach.

Am wybodaeth bellach:

  • Anfonwch ebost at: hyweldda.ymgysylltu@wales.nhs.uk
  • Ffoniwch: 01554 899 056 (gadewch neges a byddwn yn eich ffonio nôl fel nad oes yn rhaid i chi dalu am yr alwad)

Gadewch sylw ar ein bwrdd negeseuon

Gadewch eich sylwadau a'ch awgrymiadau ynghylch Canolfan Iechyd a Lles Integredig Abergwaun ar ein bwrdd negeseuon.

Mae angen i chi fod wedi mewngofnodi i roi sylwadau yn y llyfr gwesteion hwn. Cliciwch yma i Mewngofnodi Neu  Cofrestrwch i gymryd rhan
Diweddaru: 14 Jul 2022, 12:39 PM