Neidio i'r cynnwys
Baner y prosiect

Arolwg Cyhoeddus ar Wasanaethau Fferyllol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

 

Rydym yn eich gwahodd i ddweud wrthym am wasanaethau fferyllol cymunedol yn eich ardal chi.

Bydd y wybodaeth o'r arolwg hwn yn cael ei defnyddio i ddiweddaru'r Asesiad Anghenion Fferyllol (PNA). Bydd hyn yn edrych ar ble mae fferyllfeydd wedi'u lleoli a pha mor bell y mae'n rhaid i gleifion deithio, pa wasanaethau y mae fferyllfeydd yn eu cynnig ac a yw'r gwasanaethau presennol yn diwallu anghenion pobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Bydd y wybodaeth hon yn ein helpu i benderfynu a yw fferyllfeydd yn yr ardaloedd cywir, gan ddarparu'r gwasanaethau sydd eu hangen ar bobl ac yn ein cefnogi i wneud penderfyniadau ar gyfer y dyfodol.

Mae eich barn yn bwysig i ni felly sbariwch ychydig funudau i gwblhau'r arolwg hwn. Mae'r arolwg yn ddienw. Ni fydd unrhyw wybodaeth a roddwch yn gysylltiedig â chi. Rydym yn amcangyfrif y bydd yr arolwg yn cymryd tua 10 munud i'w gwblhau.

Bydd canlyniadau'r arolwg hwn yn cael eu cyhoeddi mewn asesiad o anghenion fferyllol drafft yn Hydref 2026 a fydd ar gael ar wefan y Bwrdd Iechyd.

Os hoffech ragor o wybodaeth am yr arolwg neu os oes gennych gwestiynau ar sut i gwblhau'r arolwg, anfonwch e-bost CommunityPharmacy.HDD@wales.nhs.uk or call 0300 303 8322 (local call rates) and select option 5 ‘other services’ 

Bydd yr arolwg hwn yn cau ar 9 Mawrth 2026 – ni fydd holiaduron a dderbynnir ar ôl y dyddiad hwn yn cael eu cynnwys.  

0% Ateb

Uchafswm 20,000 cymeriadau

0/20,000

2.  

Ydych chi'n cyrchu:

3.  

Sut ydych chi'n derbyn eich presgripsiwn?

4.  

Ydych chi'n archebu eich meddyginiaeth ailadroddus trwy ap y GIG?