Dweud eich dweud ar wasanaethau fferyllol cymunedol lleol
Mae'r ymgysylltu hwn bellach wedi cau. Diolch am gymryd rhan.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gwahodd pobl ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro i rannu eu barn ar wasanaethau fferyllol cymunedol lleol i gefnogi ailysgrifennu ei Asesiad Anghenion Fferyllol.
Mae Asesiadau Anghenion Fferyllol yn galluogi sefydliadau'r GIG i edrych ar ble mae fferyllfeydd wedi'u lleoli, y gwasanaethau maen nhw'n eu darparu, pa mor hygyrch ydyn nhw, ac a oes unrhyw fylchau neu gyfleoedd i wella dros gyfnod o bum mlynedd.
Bydd y safbwyntiau a ddarperir o'r arolwg hwn yn llywio ailysgrifennu'r asesiad. Ar ôl ei ailysgrifennu, bydd y bwrdd iechyd yn ymgynghori â'r cyhoedd, sefydliadau partner a rhanddeiliaid cyn i'r asesiad gael ei gwblhau a'i gyhoeddi yn ddiweddarach eleni. Mae Asesiad Anghenion Fferyllol cyfredol y bwrdd iechyd, a gyhoeddwyd yn 2021, ar gael yma https://hduhb.nhs.wales/about-us/consultation-and-engagement/c-and-e-links/pharmaceutical-needs-assessment.
Mae'r arolwg yn cau ddydd Llun 9 Mawrth 2026.
Gall pobl gymryd rhan drwy:
- Cwblhau'r arolwg isod
- Casglu copi papur o'u fferyllfa gymunedol leol.
- Dychwelwch yr arolwg hwn i'ch fferyllfa neu drwy'r post - FREEPOST BWRDD IECHYD HYWEL DDA
- Gofyn am gopi drwy:
- E-bost: communitypharmacy.hdd@wales.nhs.uk
- Rhif Ffôn: 0300 303 8322 (cyfraddau galwad lleol) a dewiswch opsiwn 5 ‘gwasanaethau eraill’.