Ymgynghoriad Cynllun Gwasanaethau Clinigol

Rhannu Ymgynghoriad Cynllun Gwasanaethau Clinigol ar Facebook Rhannu Ymgynghoriad Cynllun Gwasanaethau Clinigol Ar Twitter Rhannu Ymgynghoriad Cynllun Gwasanaethau Clinigol Ar LinkedIn E-bost Ymgynghoriad Cynllun Gwasanaethau Clinigol dolen

Diweddariad 23 Ionawr 2026

Bwrdd Iechyd i benderfynu ar fodel i’r dyfodol ar gyfer naw gwasanaeth clinigol

Rydym bellach wedi cael yr adroddiad ymgynghori annibynnol a baratowyd gan Opinion Research Services (ORS) ac mae ar gael i'w ddarllen ar wefan y Bwrdd Iechyd. Mae'r adroddiad yn crynhoi'r adborth o'r ymgynghoriad cyhoeddus.

Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cynnal cyfarfod bwrdd eithriadol ar 18 a 19 Chwefror 2026 i ystyried y model i’r dyfodol ar gyfer naw gwasanaeth sydd wedi'u cynnwys yn y Cynllun Gwasanaethau Clinigol. Bydd cyfarfod y Bwrdd Eithriadol yn cael ei ddarlledu ar-lein. Bydd papurau'r Bwrdd a dolen i'r cyfarfod ar gael ar wefan y Bwrdd Iechyd wythnos ymlaen llaw: https://biphdd.gig.cymru/amdanom-ni/eich-bwrdd-iechyd/

Gallwch ddarllen mwy am y Cynllun Gwasanaethau Clinigol, gan gynnwys adroddiad ymgynghori llawn ORS yma: https://biphdd.gig.cymru/cynllun-gwasanaethau-clinigol/

Os hoffech gael copi papur o Grynodeb Gweithredol Adroddiad Ymgynghori ORS, anfonwch e-bost at hyweldda.engagement@wales.nhs.uk neu ffoniwch 0300 303 8322 opsiwn 5, a chynnwys eich cyfeiriad post ac os byddai'n well gennych gael y copi yn Saesneg neu'n Gymraeg.

Diolch am eich diddordeb yn yr ymgynghoriad ar cynlluniau gwasanaethau clinigol. Mae’r ymgynghoriad hwn bellach wedi dod i ben.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (y Bwrdd Iechyd) yn darparu gwasanaethau iechyd i bobl ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, a Sir Benfro a hefyd i gymunedau cyfagos. Rydym bellach yn ymgynghori ar newidiadau posibl i naw gwasanaeth clinigol, a gallai hyn effeithio ar ba ysbytai y cânt eu darparu. Y naw gwasanaeth yw Gofal Critigol, Dermatoleg, Llawfeddygaeth Gyffredinol Frys, Endosgopi, Offthalmoleg, Orthopaedeg, Radioleg, Strôc, ac Wroleg. Rydym yn croesawu adborth gan y cyhoedd, ein staff, rhanddeiliaid a grwpiau yr effeithir arnynt gan ein cynigion.

Rydym wedi cydnabod ers sawl blwyddyn bod rhai o’n gwasanaethau ysbyty yn fregus. Mae hyn yn bennaf oherwydd bod ein timau clinigol wedi'u gwasgaru ar draws safleoedd lluosog, ac weithiau rydym yn dibynnu ar staff unigol. Hefyd, mae effeithiau pandemig COVID-19 yn parhau i effeithio arnom ni. Mae wedi ein gadael â rhestrau aros hir, bylchau staffio (wedi'u gwneud yn waeth gan brinder yn genedlaethol ar gyfer rhai staff gofal iechyd), pwysau gofal cymdeithasol, a mwy o alw am wasanaethau iechyd. Nid yw rhai o'n gwasanaethau wedi gallu dychwelyd i lefelau gweithgarwch cyn-bandemig. Mae hyn yn golygu bod cleifion yn aros yn hirach nag yr hoffem am rywfaint o ofal wedi'i gynllunio.

O ystyried yr heriau, rydym wedi datblygu Cynllun Gwasanaethau Clinigol, gydag opsiynau i newid naw gwasanaeth. Mae hyn o fewn amserlen o hyd at bedair blynedd ar ôl y penderfyniad a hefyd yn ystyried pa newidiadau pellach y gellid eu gwneud ymhen mwy na phedair blynedd. I grynhoi, mae’r cynllun yn ceisio:

  • ymateb i freuder y gwasanaethau gofal critigol a llawfeddygaeth gyffredinol frys
  • gwella safonau a chanlyniadau, a mynd i'r afael â heriau staffio yn y gwasanaeth strôc
  • gwella mynediad a lleihau amseroedd aros ar gyfer cleifion gofal wedi'i gynllunio (offthalmoleg, dermatoleg, wroleg ac orthopedeg) a diagnosteg (endosgopi a radioleg).

Yn yr ymgynghoriad hwn, rydym am i chi ddweud wrthym:

  • pa opsiynau arfaethedig sydd orau yn eich barn chi i fynd i'r afael â bregusrwydd yn ein gwasanaethau, gwella safonau neu leihau amseroedd aros
  • pryderon a allai fod gennych am unrhyw un o'r opsiynau, neu'r effeithiau y credwch y gallent eu cael
  • syniadau a allai fod gennych am rôl ein hysbytai yn y dyfodol
  • unrhyw beth arall y credwch y mae angen i ni ei ystyried, gan gynnwys opsiynau neu syniadau eraill a allai fod gennych.

Am wybodaeth am yr ymgynghoriad, gan gynnwys y dogfennau ymgynghori a'r holiadur ewch i: https://biphdd.gig.cymru/ymgynghoriad-gwasanaethau-clinigol

Os dymunwch dderbyn copi papur neu os oes angen fformat mwy hygyrch arnoch, ffoniwch ni ar 0300 303 8322 (cyfraddau galwadau lleol) a dewiswch opsiwn 5 'gwasanaethau eraill'.

Ymatebwch trwy anfon eich barn erbyn dydd Sul 31 Awst 2025.

Diweddaru: 23 Jan 2026, 03:25 PM