Uned Mân Anafiadau - Ysbyty Tywysog Philip

Rhannu Uned Mân Anafiadau - Ysbyty Tywysog Philip ar Facebook Rhannu Uned Mân Anafiadau - Ysbyty Tywysog Philip Ar Twitter Rhannu Uned Mân Anafiadau - Ysbyty Tywysog Philip Ar LinkedIn E-bost Uned Mân Anafiadau - Ysbyty Tywysog Philip dolen

Consultation has concluded

Mae’r Uned Mân Anafiadau yn darparu gofal i oedolion a phlant dros 12 mis oed gyda mân anafiadau megis mân glwyfau, mân losgiadau neu sgaldiadau, mân anafiadau i’r coesau, brathiadau a phigiadau, cyrff estron yn y glust neu’r trwyn, a mân anafiadau i’r llygaid. O ddydd Gwener 1 Tachwedd 2024, am gyfnod o chwe mis, bydd yr Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty Tywysog Philip ar agor o 8am tan 8pm, saith diwrnod yr wythnos.

Mae'r newid dros dro i oriau agor, sy'n effeithio ar yr Uned Mân Anafiadau yn unig, wedi'i roi ar waith i ddiogelu cleifion a staff oherwydd nad oes gan yr Uned Mân Anafiadau’r meddygon teulu priodol yn eu lle gyda'r nos a thros nos.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf (1 Hydref 2023 – 30 Medi 2024), defnyddiodd tua 31,000 o gleifion yr Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty Tywysog Philip, gyda thua 25,000 o gyflwyniadau yn ystod y dydd a 6,000 o gyflwyniadau gyda’r nos.

Bu problemau wrth sicrhau meddygon â chymwysterau addas i gyflenwi yn yr uned. Er enghraifft, yn y cyfnod o bum mis rhwng Chwefror 2024 a Gorffennaf 2024, roedd 42 o slotiau heb eu llenwi, gyda 23 ohonynt dros nos ac 16 yn slotiau prynhawn/nos.

Mae Uned Asesu Meddygol Acíwt yr ysbyty, sy’n darparu gofal brys i gleifion meddygol sâl iawn, fel y rhai sydd wedi dioddef strôc neu drawiad ar y galon, yn parhau i fod yn wasanaeth 24/7 yn Ysbyty Tywysog Philip ac nid yw’n rhan o’r newid dros dro hwn.

Mae cleifion yn cael eu cludo i'r uned hon yn uniongyrchol gan y gwasanaeth ambiwlans, neu'n cael eu hatgyfeirio gan eu meddyg teulu, neu gan y gwasanaeth y Tu Allan i Oriau.

Bydd y gwasanaeth y Tu Allan i Oriau lleol yn parhau i weithredu o Ysbyty Llanelli a gellir ei gyrchu trwy ffonio GIG 111 Cymru pan nad yw eich meddygfa ar agor (rhwng 6.30pm ac 8am dydd Llun i ddydd Gwener, penwythnosau a Gwyliau Banc). Dim ond trwy drefniant gyda GIG 111 Cymru y gwelir cleifion gan nad yw hwn yn wasanaeth ‘galw i mewn’.