Rhannwch eich barn ar y cynnig ar gyfer man diogel ar gyfer iechyd meddwl oedolion

Rhannu Rhannwch eich barn ar y cynnig ar gyfer man diogel ar gyfer iechyd meddwl oedolion ar Facebook Rhannu Rhannwch eich barn ar y cynnig ar gyfer man diogel ar gyfer iechyd meddwl oedolion Ar Twitter Rhannu Rhannwch eich barn ar y cynnig ar gyfer man diogel ar gyfer iechyd meddwl oedolion Ar LinkedIn E-bost Rhannwch eich barn ar y cynnig ar gyfer man diogel ar gyfer iechyd meddwl oedolion dolen

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gwahodd defnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr, staff, sefydliadau partner ac aelodau o'r cyhoedd i rannu eu barn ar leoliad ei wasanaeth Man Diogel Adran 136 i oedolion yn y dyfodol.

Mae adran 136 yn rhan o'r Ddeddf Iechyd Meddwl sy'n rhoi pwerau brys i'r heddlu. Gall swyddogion yr heddlu ddefnyddio'r rhain i fynd â pherson sy'n profi argyfwng iechyd meddwl mewn man cyhoeddus am hyd at 24 awr i le diogel dynodedig, lle gallant dderbyn asesiad a chymorth priodol. Mae gan y Bwrdd Iechyd gyfrifoldeb statudol i ddarparu'r gwasanaeth hwn.

Bydd yr ymgysylltiad yn rhedeg rhwng 1 Medi a 26 Hydref 2026 a bydd yn casglu adborth ar opsiwn a ffefrir i ddatblygu ystafell bwrpasol i oedolion Adran 136 yng Nghwm Seren, Parc Dewi Sant, Caerfyrddin.

Mae'r lleoliad a ffefrir ar gyfer y man diogel ar gyfer Hywel Dda wedi'i nodi yn dilyn proses arfarnu opsiynau amlasiantaethol sy'n cynnwys partneriaid gan gynnwys Heddlu Dyfed-Powys, awdurdodau lleol, Gweithredu dros Iechyd Meddwl Gorllewin Cymru (WWAMH) a Llais.

Ers pandemig COVID-19, mae'r man diogel ar gyfer Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro wedi'i gyfuno â ward Bryngofal yn Llanelli. Mae'r cynnig yn dilyn adolygiad o'r cyfleusterau presennol, a amlygodd heriau amgylcheddol a staffio. Aseswyd modelau posibl ar gyfer darpariaeth yn y dyfodol fel rhan o'r broses arfarnu gan ystyried ansawdd, diogelwch, profiad cleifion, gweithlu, cynaliadwyedd, gofynion gweithredol a chyfrifoldebau statudol.

Daeth yr asesiad i'r casgliad y byddai cyfleuster pwrpasol yng Nghwm Seren yn darparu'r model gofal mwyaf diogel, mwyaf clinigol effeithiol a chynaliadwy. Er na all unrhyw leoliad unigol ddileu teithio i bob unigolyn, mae Caerfyrddin yn darparu'r lleoliad mwyaf canolog ar draws ôl troed y Bwrdd Iechyd ac yn lleihau amseroedd teithio i lawer o unigolion a gweithwyr proffesiynol o Geredigion a Sir Benfro. Byddai hefyd yn cynnig mynediad uniongyrchol at gymorth iechyd meddwl arbenigol, gwell rheoli risg acíwt a gwell mynediad at wasanaethau gofal iechyd corfforol pan fo angen.

Mae'r ymgysylltiad yn ceisio adborth ar yr opsiwn a ffefrir, ei effaith bosibl ar unigolion a chymunedau, ac unrhyw fesurau a allai helpu i leihau neu fynd i'r afael â phryderon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn gwahodd pobl i rannu eu barn yn y ffyrdd canlynol cyn dydd Llun 26 Hydref 2026:

  • Cwblhau arolwg dienw drwy’r holiadur isod.
  • E-bostio ask.hdd@wales.nhs.uk
  • Drwy ofyn am gopi papur drwy Hyb Cyfathrebu'r Bwrdd Iechyd ar 0300 303 8322 (opsiwn 5) a'i ddychwelyd drwy FREEPOST HYWEL DDA UNIVERSITY HEALTH BOARD
  • Ffonio Hyb Cyfathrebu'r Bwrdd Iechyd ar 0300 303 8322 (opsiwn 5)

Bydd ymgysylltu wedi'i dargedu hefyd yn digwydd gyda phobl sydd â phrofiad byw o broblemau iechyd meddwl, gyda chyfranogiad yn cael ei gefnogi a'i hwyluso gan sefydliadau cymorth iechyd meddwl.

Bydd adborth a dderbynnir yn ystod y cyfnod ymgysylltu yn helpu i lywio'r ystyriaeth gan y Bwrdd Iechyd o'r opsiwn a ffefrir ac yn cefnogi'r broses o wneud penderfyniadau yn y dyfodol ynghylch darparu gwasanaethau Man Diogel Adran 136 ar draws Hywel Dda.

  • Llenwi holiadur
    Rhannu Holiadur ar Facebook Rhannu Holiadur Ar Twitter Rhannu Holiadur Ar LinkedIn E-bost Holiadur dolen
Diweddaru: 03 Sep 2026, 02:49 PM