Prosiect Uned Ddydd Triniaeth Canser Ysbyty Bronglais

Rhannu Prosiect Uned Ddydd Triniaeth Canser Ysbyty Bronglais ar Facebook Rhannu Prosiect Uned Ddydd Triniaeth Canser Ysbyty Bronglais Ar Twitter Rhannu Prosiect Uned Ddydd Triniaeth Canser Ysbyty Bronglais Ar LinkedIn E-bost Prosiect Uned Ddydd Triniaeth Canser Ysbyty Bronglais dolen

Mae'r ymgysylltu hwn bellach wedi cau. Diolch am gymryd rhan.

Diweddariad ar Brosiect Uned Ddydd Triniaeth Canser Bronglais

Comisiynwyd prosiect Uned Ddydd Triniaeth Canser Ysbyty Bronglais i ddarparu uned newydd ar gyfer therapi gwrth-ganser yn Aberystwyth ar gyfer pobl Canolbarth Cymru. Rydym bron yn y pwynt lle mae'r prosiect yn dechrau amlygu siâp ffisegol ac, yn dilyn oedi byr, mae'r gwaith o adeiladu'r Uned newydd wedi dechrau.

Ers lansio apêl codi arian Elusen Iechyd Hywel Dda ym mis Tachwedd 2021, mae'r elusen, a 'nawr y bwrdd iechyd, wedi gweithio i sicrhau bod cymunedau lleol, cleifion, staff a chodwyr arian wedi cael yr wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y prosiect. Trwy erthyglau rheolaidd yn y Cambrian News, a thrwy sianeli cyfryngau cymdeithasol yr elusen a'r bwrdd iechyd ar Facebook, X (Twitter yn flaenorol) ac Instagram, rhannwyd straeon am yr ymgyrch codi arian ac am gerrig milltir allweddol yn y prosiect.

Dechreuodd y gwaith adeiladu ar yr Uned Ddydd Cemotherapi newydd yn Ysbyty Bronglais ym mis Mai 2024. Bydd y prosiect yn darparu gwelliannau sylweddol o ran gofal a phrofiad ar gyfer cleifion â chanser yng Nghanolbarth Cymru. Rydym wedi goresgyn oedi byr, a, gyda chefnogaeth ein staff, Elusennau Iechyd Hywel Dda, aelodau ein Bwrdd a'n contractwr adeiladu, rydym yn disgwyl i'r uned gwerth £3 miliwn fod yn barod i groesawu ei chleifion cyntaf y flwyddyn nesaf. Mae'r gyllideb ar gyfer y datblygiad wedi bod o dan bwysau oherwydd y cynnydd cyflym yng nghostau deunyddiau. Fodd bynnag, trwy gynllunio a chyllidebu'n ofalus, mae'r bwrdd iechyd 'nawr ar y trywydd iawn i bron dyblu arwynebedd y llawr sydd ar gael ar gyfer ardaloedd triniaeth a staff i 600 metr sgwâr.

Mae grŵp celf gweithredol yn gweithio gyda chynrychiolwyr staff a chleifion i sicrhau bod amgylchedd yr uned newydd yn cael ei wella trwy weithiau celf a chynlluniau lliwiau integredig trwyddi draw.

Bydd y prosiect yn ailfodelu rhan o'r arwynebedd llawr presennol ac yn addasu'r lle i sicrhau ei fod yn diwallu anghenion staff a chleifion i ddarparu cyfleuster modern a chroesawgar.

  • Wedi cau: Mae'r arolwg hwn wedi'i gwblhau.

    Daeth yr holiadur hwn i ben ar 25 Tachwedd 2024. Diolch i bawb a gymerodd amser i gymryd rhan.

    Mae'r ymgysylltu hwn bellach wedi cau. Diolch am gymryd rhan.

    Rhannu Prosiect Uned Ddydd Triniaeth Canser Ysbyty Bronglais - Holiadur ar Facebook Rhannu Prosiect Uned Ddydd Triniaeth Canser Ysbyty Bronglais - Holiadur Ar Twitter Rhannu Prosiect Uned Ddydd Triniaeth Canser Ysbyty Bronglais - Holiadur Ar LinkedIn E-bost Prosiect Uned Ddydd Triniaeth Canser Ysbyty Bronglais - Holiadur dolen