Rydym yn defnyddio cwcis i sicrhau bod ein gwefan yn gweithio'n iawn ac i storio gwybodaeth gyfyngedig am eich defnydd. Gallwch roi caniatâd neu dynnu'n ôl ar unrhyw adeg. I gael gwybod mwy, darllenwch ein polisi preifatrwydd a'n polisi cwcis.
Addasu gosodiadau cwcis
Mae cwci yn wybodaeth sy'n cael ei storio ar eich cyfrifiadur gan wefan rydych chi'n ymweld â hi. Mae cwcis yn aml yn storio eich gosodiadau ar gyfer gwefan, fel eich dewis iaith neu leoliad. Mae hyn yn caniatáu i'r wefan gyflwyno gwybodaeth wedi'i haddasu i chi i gyd-fynd â'ch anghenion. Yn unol â chyfraith GDPR, mae angen i gwmnïau gael eich cymeradwyaeth benodol i gasglu eich data. Mae rhai o'r cwcis hyn yn 'gwbl angenrheidiol' i ddarparu swyddogaethau sylfaenol y wefan ac ni ellir eu diffodd, tra bod gan eraill os ydynt yn bresennol yr opsiwn o gael eu diffodd. Dysgwch fwy am ein polisïauPreifatrwydd a Chwcis. Gellir rheoli'r rhain hefyd o'n tudalen polisi cwcis.
Cwcis hanfodol:
Angenrheidiol i alluogi ymarferoldeb craidd. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn.
Cwcis dadansoddol:
Helpwch ni i ddadansoddi ymddygiad defnyddwyr, Mesur a deall sut mae ein defnyddwyr yn defnyddio ein gwefan, yn bennaf i weld a yw'r defnyddwyr yn gallu dod o hyd i bethau y maent yn chwilio amdanynt a gweithredu arnynt. Offer a ddefnyddiwyd: Google Analytics
Mynediad parhaus at gymorth gofal iechyd meddwl yng Ngheredigion
Rhannu Mynediad parhaus at gymorth gofal iechyd meddwl yng Ngheredigion ar FacebookRhannu Mynediad parhaus at gymorth gofal iechyd meddwl yng Ngheredigion Ar TwitterRhannu Mynediad parhaus at gymorth gofal iechyd meddwl yng Ngheredigion Ar LinkedInE-bost Mynediad parhaus at gymorth gofal iechyd meddwl yng Ngheredigion dolen
Oherwydd diffyg staff meddygol a nyrsio yn Nhimau Iechyd Meddwl Cymunedol Gorwelion a Hafan Hedd yng Ngheredigion, ni fydd atgyfeiriadau iechyd meddwl oedolion rheolaidd yn cael eu hwyluso gan y timau mwyach. Bydd hwn yn newid gwasanaeth dros dro am chwe mis.
Gofynnir i bobl sy’n ymweld â’u meddyg teulu ac sydd angen rhagor o gymorth iechyd meddwl nad yw’n frys ffonio gwasanaeth cymorth iechyd meddwl GIG 111 Cymru Opsiwn 2.
Mae GIG 111 Cymru Opsiwn 2 yn rhoi’r claf mewn cysylltiad uniongyrchol ag ymarferydd llesiant iechyd meddwl lleol, sy’n cael ei gefnogi gan nyrs iechyd meddwl gofrestredig bob amser, gan alluogi mynediad cyflym at gyngor, asesiad a chymorth iechyd meddwl.
Gall meddygon teulu barhau i atgyfeirio cleifion sydd â'r angen mwyaf i'r tîm cymunedol. Mae gan feddygon teulu hefyd fynediad at linell gymorth 111 broffesiynol os ydynt yn pryderu na fydd claf yn ffonio’r gwasanaeth fel y cynghorir, neu os nad yw’r claf yn gallu gwneud hyn ei hun.
Bydd y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol yn parhau i dderbyn atgyfeiriadau brys ar gyfer asesiad gan feddygon teulu ar gyfer cleifion sydd â risg uwch o argyfwng iechyd meddwl ac sydd angen cael eu gweld yn bersonol o fewn y 24 awr nesaf gan y Tîm Iechyd Meddwl.
I grynhoi, mae 111 opsiwn 2 yn wasanaeth Un Pwynt Cyswllt wedi’i staffio a’i reoli gan ymarferwyr Iechyd Meddwl Hywel Dda ac mae’n cynnwys:
Mynediad ar unwaith at gymorth iechyd meddwl: Gall unigolion sydd angen cymorth iechyd meddwl gysylltu'n gyflym â gweithwyr proffesiynol hyfforddedig trwy wasanaeth opsiwn 2 111.
Proses atgyfeirio symlach: Drwy ganoli atgyfeiriadau iechyd meddwl drwy 111 opsiwn 2, gallwn symleiddio’r broses a lleihau oedi posibl o ran mynediad at ofal. Gall y rhai sydd angen asesiad wyneb yn wyneb gyda'r Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol dderbyn asesiad o'r fath mewn modd amserol ac ymatebol.
Ymyrraeth mewn argyfwng: Gall unigolion mewn argyfyngau iechyd meddwl dderbyn cefnogaeth ac arweiniad ar unwaith trwy wasanaeth 111 opsiwn 2, gan helpu i atal rhag gwaethygu a sicrhau diogelwch.
Hoffai Tîm Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ddeall sut y bydd y newid dros dro brys hwn yn effeithio ar gleifion ac mae’n eich gwahodd i rannu eich barn drwy lenwi’r holiadur byr isod.
Fel arall, gallwch gysylltu â’r Bwrdd Iechyd i roi adborth i ni am eich barn:
Dros y ffôn i Hyb Cyfathrebu’r Bwrdd Iechyd ar 0300 303 8322 (opsiwn 5)
Trwy ofyn am fersiwn papur o'r arolwg hwn a dychwelyd arolwg wedi'i gwblhau trwy bostio i FREEPOST HYWEL DDA HEALTH BOARD. I wneud cais am fersiwn papur e-bostiwch Hyweldda.Ymgysylltu@wales.nhs.uk
Rhowch adborth erbyn 14 Gorffennaf 2025.

Rhannu Mynediad parhaus at gymorth gofal iechyd meddwl yng Ngheredigion - Holiadur ar FacebookRhannu Mynediad parhaus at gymorth gofal iechyd meddwl yng Ngheredigion - Holiadur Ar TwitterRhannu Mynediad parhaus at gymorth gofal iechyd meddwl yng Ngheredigion - Holiadur Ar LinkedInE-bost Mynediad parhaus at gymorth gofal iechyd meddwl yng Ngheredigion - Holiadur dolen