Bwrdd Iechyd yn gofyn am farn ar argymhelliad arfaethedig ar gyfer Meddygfa'r Sarn
Mae cleifion Meddygfa'r Sarn a Meddygfa Minafon, ynghyd â staff ac aelodau o'r gymuned ehangach, yn cael eu gwahodd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i rannu eu barn ar drefniadau arfaethedig i’r dyfodol ar gyfer gwasanaethau a ddarperir ar hyn o bryd gan Feddygfa'r Sarn.
Mae'r ail gam ymgysylltu yn dilyn argymhelliad blaenorol y dylid gwasgaru rhestr y feddygfa i feddygfeydd cyfagos. Roedd yr adborth a gafwyd yn tynnu sylw at y pwysigrwydd y mae’r gymuned yn ei roi ar gadw mynediad at wasanaethau meddyg teulu yn lleol ym Mhont-iets.
O ganlyniad, mae’r Panel Meddygfeydd Gwag diweddar wedi argymell mai'r opsiwn mwyaf cynaliadwy ar gyfer parhau i ddarparu gwasanaethau ym Mhont-iets yw i Feddygfa'r Sarn uno ei restr cleifion â Meddygfa Minafon, meddygfa a reolir gan y Bwrdd Iechyd yng Nghydweli.
O dan y cynnig, byddai Meddygfa'r Sarn ar agor bob diwrnod o'r wythnos rhwng 9am a 3pm, gyda gwasanaethau meddygon teulu a chlinigau nyrsio yn rhedeg bob dydd. Ar ôl 3pm, byddai unrhyw apwyntiadau brys na allant aros tan y diwrnod wedyn yn cael eu darparu yng Nghydweli.
Byddai Meddygfa Minafon yn aros ar agor 8am – 6.30pm a byddai meddygfa gangen Trimsaran yn aros ar agor 9am – 4pm.
Nid oes unrhyw benderfyniad terfynol wedi'i wneud, ac mae'r Bwrdd Iechyd yn awyddus i glywed gan gleifion, staff, preswylwyr a rhanddeiliaid cymunedol cyn i'r bwrdd ystyried yr argymhelliad yn gynnar yn 2027.
Bydd y cyfnod ymgysylltu yn rhedeg o ddydd Llun 2 Tachwedd tan ddydd Sul 29 Tachwedd 2026. Anogir cleifion Meddygfa'r Sarn a Meddygfa Minafon, ynghyd â staff, preswylwyr, gofalwyr a rhanddeiliaid eraill sydd â diddordeb, i rannu eu barn drwy un o’r dulliau canlynol:
- Llenwi holiadur ar-lein drwy wefan Dweud eich Dweud y Bwrdd Iechyd: www.haveyoursay.hduhb.wales.nhs.uk
- E-bostio ask.hdd@wales.nhs.uk
- Llenwi holiadur ar bapur a'i ddychwelyd i'r blychau casglu ym Meddygfa'r Sarn, Meddygfa Minafon neu Feddygfa Trimsaran.
- Ffonio Hwb Cyfathrebu'r Bwrdd Iechyd ar 0300 303 8322 (opsiwn 5)
- Rhannu adborth gyda Llais drwy www.llaiswales.org (yn agor mewn tab newydd)
Bydd y Bwrdd Iechyd hefyd yn cynnal cyfleoedd ymgysylltu wyneb-yn-wyneb ac ar-lein, lle gall pobl ddysgu mwy am y cynnig, gofyn cwestiynau a rhannu eu barn.
- Dyddiad: Dydd Gwener 20 Tachwedd 2026
- Amser: 1.30pm i 6.30pm (galwch heibio ar unrhyw adeg)
- Lleoliad: Neuadd Les Pont-iets, Heol y Meinciau, Pont-iets, SA15 5TR.
Bydd digwyddiad ar-lein hefyd yn cael ei gynnal ddydd Mawrth 24 Tachwedd 2026 am 6.30pm. E-bostiwch hyweldda.engagement@wales.nhs.uk i dderbyn dolen i'r digwyddiad ar-lein.