Mae cwcis yn ein helpu i ddeall sut rydych yn defnyddio ein gwefan fel y gallwn roi'r profiad gorau i chi pan fyddwch ar ein safle. I gael gwybod mwy, darllenwch ein polisi preifatrwydd a'n polisi cwcis.
Addasu gosodiadau cwcis
Mae cwci yn wybodaeth sy'n cael ei storio ar eich cyfrifiadur gan wefan rydych chi'n ymweld â hi. Mae cwcis yn aml yn storio eich gosodiadau ar gyfer gwefan, fel eich dewis iaith neu leoliad. Mae hyn yn caniatáu i'r wefan gyflwyno gwybodaeth wedi'i haddasu i chi i gyd-fynd â'ch anghenion. Yn unol â chyfraith GDPR, mae angen i gwmnïau gael eich cymeradwyaeth benodol i gasglu eich data. Mae rhai o'r cwcis hyn yn 'gwbl angenrheidiol' i ddarparu swyddogaethau sylfaenol y wefan ac ni ellir eu diffodd, tra bod gan eraill os ydynt yn bresennol yr opsiwn o gael eu diffodd. Dysgwch fwy am ein polisïauPreifatrwydd a Chwcis. Gellir rheoli'r rhain hefyd o'n tudalen polisi cwcis.
Cwcis hanfodol:
Angenrheidiol i alluogi ymarferoldeb craidd. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn.
Cwcis dadansoddol:
Helpwch ni i ddadansoddi ymddygiad defnyddwyr, Mesur a deall sut mae ein defnyddwyr yn defnyddio ein gwefan, yn bennaf i weld a yw'r defnyddwyr yn gallu dod o hyd i bethau y maent yn chwilio amdanynt a gweithredu arnynt. Offer a ddefnyddiwyd: Google Analytics
Cwcis cyfryngau cymdeithasol:
Rydym yn defnyddio cwcis cyfryngau cymdeithasol o Facebook, Twitter a Google i redeg teclynnau, ymgorffori fideos, swyddi, sylwadau a nôl gwybodaeth proffil.
Meddygfa Cangen Talacharn – dyfodol gwasanaethau i gleifion cofrestredig
Rhannu Meddygfa Cangen Talacharn – dyfodol gwasanaethau i gleifion cofrestredig ar FacebookRhannu Meddygfa Cangen Talacharn – dyfodol gwasanaethau i gleifion cofrestredig Ar TwitterRhannu Meddygfa Cangen Talacharn – dyfodol gwasanaethau i gleifion cofrestredig Ar LinkedInE-bost Meddygfa Cangen Talacharn – dyfodol gwasanaethau i gleifion cofrestredig dolen
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cael cais gan Feddygfa Coach and Horses yn Sanclêr, i gau eu Meddygfa Cangen yn Nhalacharn, Sir Gaerfyrddin.
Dyma’r prif resymau dros y cais:
Mae'r Feddygfa wedi wynebu problemau mawr o ran cynnal ei weithlu craidd ac nid yw wedi gallu darparu sesiynau meddygon teulu ym Meddygfa Cangen Talacharn ers mis Ebrill 2020.
Er mwyn diogelu'r ddarpariaeth o wasanaethau meddygol cyffredinol, mae Partneriaid o Feddygon Teulu Meddygfa Coach and Horses yn Sanclêr wedi gwneud y penderfyniad anodd i wneud cais i gau Meddygfa Cangen Talacharn. Bydd hyn yn caniatáu iddynt ganoli eu staff a’u gwasanaethau, a fydd yn ei dro yn cefnogi cynaliadwyedd y Feddygfa i’r dyfodol.
Mae heriau ledled y DU o ran recriwtio a chadw meddygon teulu.
Mae Tracey Huggins, Pennaeth Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, yn esbonio’r broses: “Unwaith y bydd cais i gau meddygfa gangen yn dod i law, mae’r Bwrdd Iechyd yn dechrau ei Broses Adolygu Practis Cangen, a reolir yn annibynnol ar Feddygfa Coach and Horses.
“Mae’r broses sy’n nodi sut y bydd y Bwrdd Iechyd yn ymateb i gael ac adolygu’r cais i gau. Mae hefyd yn nodi sut y byddwn yn rhannu gwybodaeth gyda chleifion a rhanddeiliaid ehangach er mwyn cael eu barn, sy’n cynnwys ymgysylltu â Llais, y corff statudol yng Nghymru sy’n cynrychioli buddiannau cleifion a’r cyhoedd.
“Unwaith y bydd yr holl brosesau hyn wedi'u cwblhau, rydym yn dechrau ar gyfnod o ystyriaeth gydwybodol o'r adborth a gawsom. Gwneir hyn i gyd yn annibynnol ar y Feddygfa, er ein bod yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt ac yn cynnwys eu cynrychiolydd yn ein cyfarfodydd.
“Yn olaf, mae’r holl wybodaeth a gesglir yn cael ei hystyried pan fydd y Bwrdd yn cyfarfod yn gyhoeddus i ystyried penderfyniad terfynol ar y cais.”
Cynhelir y cyfnod ymgysylltu hwn rhwng 1 Tachwedd i 8 Rhagfyr 2023. Gall cleifion ac aelodau o'r gymuned ehangach ddweud eu dweud mewn amryw ffyrdd:
Mynychu digwyddiad galw heibio ddydd Mawrth 28 Tachwedd 2023, 2pm tan 7pm yn Neuadd Goffa Talacharn, Stryd Clifton, Talacharn SA33 4QG
Llenwi holiadur: mae blychau casglu ar gyfer holiaduron ym Meddygfa Talacharn a Meddygfa Coach and Horses. Gall cleifion hefyd eu dychwelyd drwy eu postio i FREEPOST HYWEL DDA HEALTH BOARD
Dros y ffôn: 0300 303 8322 a dewis opsiwn 5 ar gyfer gwasanaethau eraill.
Rhoi adborth yn uniongyrchol i Llais, Swît 5, Llawr 1af, Tŷ Myrddin, Heol yr Hen Orsaf, Caerfyrddin SA31 1LP.

Yn unol â pholisi, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi rhoi ei Broses Adolygu Meddygfa Cangen ar waith, a fydd yn cynnwys y canlynol:
Rhannu gwybodaeth â chleifion a rhanddeiliaid ehangach i ofyn am eu barn;
Ymgysylltu â Llais, sef y corff statudol sy’n cynrychioli buddiannau cleifion a’r cyhoedd;
Cynnal sesiwn galw-heibio cyhoeddus ar gyfer cleifion Meddygfa Cangen Talacharn ar ddydd Mawrth 28 Tachwedd 2023, rhwng 2pm a 7pm yn Neuadd Goffa Talacharn, Stryd Clifton, Talacharn SA33 4QG
Bydd yr adborth a gaiff y bwrdd iechyd gan gleifion a rhanddeiliaid yn cael ei ystyried wrth wneud penderfyniad terfynol ar y cais, a hynny mewn cyfarfod cyhoeddus o’r bwrdd iechyd.