Gwasanaethau profion gwaed (fflebotomi) yn Llanelli

Rhannu Gwasanaethau profion gwaed (fflebotomi) yn Llanelli ar Facebook Rhannu Gwasanaethau profion gwaed (fflebotomi) yn Llanelli Ar Twitter Rhannu Gwasanaethau profion gwaed (fflebotomi) yn Llanelli Ar LinkedIn E-bost Gwasanaethau profion gwaed (fflebotomi) yn Llanelli dolen

O 20 Mai 2024, bydd y rhan fwyaf o wasanaethau profion gwaed i bobl sy'n byw yn ardal Llanelli yn cael eu darparu o'r Ganolfan Brechu Torfol yn Nafen, Llanelli.

Mae symud gwasanaethau profion gwaed o Ganolfan Antioch i Ddafen mewn ymateb i adborth gan ein cleifion sydd wedi codi pryderon am ein gwasanaeth yn Llanelli. Mae cleifion wedi rhannu adborth o’r blaen ar y diffyg lle i barcio, lle i gleifion aros am eu hapwyntiad, a hyd ein rhestr aros.

Rydym yn ymwybodol y gallai fod angen cymorth ychwanegol ar rai pobl sy’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i deithio i Ddafen. I gefnogi cleifion sy'n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, bydd apwyntiadau profion gwaed ar gael dau ddiwrnod yr wythnos yn Ysbyty Tywysog Philip. Gan fod parcio yn her yn Ysbyty Tywysog Philip, bydd yr apwyntiadau hyn yn gyfyngedig i gleifion sy'n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

Bydd y system archebu ar-lein, a'r llinell ffôn, ar gyfer trefnu apwyntiadau profion gwaed yn parhau. Drwy symud y gwasanaeth i Ddafen byddwn, dros amser, yn gallu cynyddu nifer yr apwyntiadau sydd ar gael a mynd i’r afael â rhai o’r materion a godwyd gan ein cleifion.

Mae symud i’r Ganolfan Brechu Torfol yn Nafen yn symudiad dros dro, gan y bydd ein huchelgais tymor hwy yn cynnwys symud y gwasanaeth i fod yn rhan o ddatblygiad Pentre Awel yn 2025.

Bydd yr adborth y byddwch yn ei rannu â ni yn cael ei ystyried wrth ystyried unrhyw gymorth y mae angen i ni ei roi ar waith i'ch helpu i gael mynediad at wasanaethau profion gwaed naill ai yn Nafen neu Ysbyty Tywysog Philip.

Helpwch ni i ddeall sut y bydd y newid hwn yn effeithio arnoch chi fel defnyddiwr gwasanaeth trwy gwblhau'r arolwg isod erbyn 26 Mehefin 2024.

Mae'r arolwg hwn yn ddienw.

Gallwch hefyd gwblhau’r arolwg isod.

Os byddai’n well gennych rannu eich barn yn bersonol, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi ymuno â ni yn y digwyddiadau galw heibio.

Cynhelir dau ddigwyddiad galw heibio ddydd Mercher 8 Mai, a dydd Mawrth 14 Mai, 2024, yng Nghanolfan Antioch yn Llanelli – dewch draw i’n gweld unrhyw bryd rhwng 3yp a 6yp.

  • Llenwi holiadur
    Rhannu Arolwg ar Facebook Rhannu Arolwg Ar Twitter Rhannu Arolwg Ar LinkedIn E-bost Arolwg dolen
Diweddaru: 01 Mai 2024, 10:45 AC