Dweud Eich Dweud ar yr Asesiad o Lesiant Lleol

Rhannu Dweud Eich Dweud ar yr Asesiad o Lesiant Lleol ar Facebook Rhannu Dweud Eich Dweud ar yr Asesiad o Lesiant Lleol Ar Twitter Rhannu Dweud Eich Dweud ar yr Asesiad o Lesiant Lleol Ar LinkedIn E-bost Dweud Eich Dweud ar yr Asesiad o Lesiant Lleol dolen

Beth yr ydym yn ei wneud?

Mae Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro) yn cynnal Asesiad o Lesiant Lleol.

Maent yn bartneriaethau o sefydliadau lleol fel cynghorau, gwasanaethau iechyd, gwasanaethau brys ac eraill sy'n gweithio gyda'i gilydd i wella llesiant - pethau sy'n helpu pobl i deimlo'n hapus, yn ddiogel ac yn iach.

Maent am ddarganfod rhagor am lesiant pobl a chymunedau lleol, a hynny 'nawr ac ar gyfer y dyfodol. Gall llawer o bethau ddylanwadu ar lesiant ein hunigolion a'n cymunedau, megis ffactorau economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol.

Ymgynghoriadau ar asesiadau drafft o les

Rydyn ni eisiau gwybod beth sydd bwysicaf i chi a'ch cymuned. Trwy rannu eich profiadau, gallwch ein helpu i ganolbwyntio ar y meysydd sydd bwysicaf.

Sut i rannu eich barn

Gallwch gwblhau'r arolwg ar-lein YMA neu drwy sganio cod QR yn eich cerdyn post sirol perthnasol isod.

Plant a phobl ifanc

Arolwg llesiant plant a phobl ifanc

Bydd yr ymgynghoriad hwn yn dod i ben ar 8 Awst 2026.

Am wybod mwy?

Cliciwch ar y fideo byr isod.

Gallwch hefyd ddod o hyd i ragor o wybodaeth trwy fynd i wefan leol eich ar gyfer y Asesiad o Lesiant Lleol:

Sir Gaerfyrddin: Asesiad Llesiant - Diolch a chamau nesaf - Cyngor Sir Caerfyrddin

Sir Ceredigion: Asesiad o Lesiant Lleol - Cyngor Sir Ceredigion

Sir Benfro: Y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus - Cyngor Sir Benfro

Beth sy’n digwydd nesaf?

Ar y cyd â thystiolaeth arall, bydd yr wybodaeth a roddwch i ni yn cael ei defnyddio i lunio Asesiadau o Lesiant Lleol ar gyfer Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Yna bydd yr Asesiadau hyn yn cael eu defnyddio i lunio Cynlluniau Llesiant Lleol i bob un o'r tair sir ar gyfer 2028-2033. Bydd y Cynlluniau'n nodi Amcanion Llesiant a gwaith y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ar gyfer pob sir i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Gorllewin Cymru.

Diweddaru: 12 Meh 2026, 02:28 PM