Neidio i'r cynnwys
Baner y prosiect

Drafft Asesiad o Anghenion Fferyllol - Arolwg ymgynghori

Daeth Rheoliadau’r GIG (Gwasanaethau Fferyllol) 2020 i rym ar 1 Hydref 2020 ac roeddent yn cynnwys gofyniad i fyrddau iechyd lunio Asesiad o Anghenion Fferyllol.  Hwn fydd yr ail Asesiad o Anghenion Fferyllol a gyhoeddir gan Fyrddau Iechyd Cymru yn unol â’r Rheoliadau sy’n mynnu bod yn rhaid cynnal Asesiad o Anghenion Fferyllol o leiaf bob 5 mlynedd (neu’n gynt os bydd Bwrdd Iechyd yn nodi newidiadau sylweddol i’r angen am wasanaethau fferyllol).

Cyhoeddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yr Asesiad o Anghenion Fferyllol cyntaf ar 1 Hydref 2020 i asesu a yw gwasanaethau fferyllol a ddarperir yn ei ardal yn diwallu anghenion fferyllol y boblogaeth yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae’r Asesiad o Anghenion Fferyllol yn helpu’r Bwrdd Iechyd i reoli a gwneud penderfyniadau ar geisiadau am fferyllfeydd newydd, adleoli fferyllfeydd presennol a’r ystod o wasanaethau sydd eu hangen.

Sylwch fod yr Asesiad o Anghenion Fferyllol yn canolbwyntio ar wasanaethau fferyllol cymunedol, neu’r hyn y gallwch gyfeirio ato fel “Fferyllfeydd”.

Hoffai’r Bwrdd Iechyd gael eich sylwadau ar yr Asesiad o Anghenion Fferyllol drafft ac mae’n cynnal ymgynghoriad cyhoeddus rhwng 18 Mai 2026 a 17 Gorffennaf 2026.

I ddweud eich dweud, darllenwch y Ddogfen Gryno o'r Ymgynghoriad neu'r Asesiad o Anghenion Fferyllol drafft llawn cyn cwblhau'r cwestiynau.

Bydd barn pobl sy’n ymateb yn bersonol yn ddienw. Bydd barn y bobl sy’n ymateb yn bersonol yn ddienw, ac felly, ni ddylech ddatgelu unrhyw wybodaeth bersonol adnabyddadwy amdanoch chi’ch hun yn y blychau testun rhydd, dim ond eich barn sydd ei hangen. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd adborth gan gynrychiolwyr sefydliadau neu rywun sy’n gweithredu’n swyddogol yn cael ei rannu. 

Mae pob cwestiwn yn ddewisol a bydd yr holl wybodaeth a ddarperir gennych yn cael ei phrosesu yn unol â’r ddeddfwriaeth diogelu data ddiweddaraf. Dim ond i lywio’r ymgynghoriad hwn y bydd gwybodaeth yn cael ei defnyddio, a bydd unrhyw wybodaeth bersonol a allai ddatgelu pwy ydych yn cael ei chadw am ddim mwy na blwyddyn ar ôl i unrhyw benderfyniadau gael eu cwblhau. I gael rhagor o wybodaeth, gweler biphdd.gig.cymru/amdanom-ni/trefniadau-llywodraethu/eich-gwybodaeth-eich-hawliau/hysbysiadau-preifatrwydd.

Os hoffech ragor o wybodaeth am yr ymgynghoriad neu os oes gennych gwestiynau am yr asesiad o anghenion fferyllol, anfonwch e-bost at: CommunityPharmacy.HDD@wales.nhs.uk 

Diolch.  Mae eich barn yn bwysig i ni.

0% Ateb

1.  

Ym mha rôl ydych chi’n ymateb i’r ymgynghoriad hwn?