Clwstwr Tywi / Taf
Consultation has concluded
Beth sydd ar gael i fy helpu gyda fy iechyd a lles yn Nhywi Taf?
Mae ardal Tywi/Taf yn disgrifio llawer o orllewin a gogledd Sir Gaerfyrddin. Mae hyn yn cynnwys tref sirol Caerfyrddin yn y canol, cyn belled i'r gorllewin â Hendy-gwyn ar Daf, y tu hwnt i Lanymddyfri yn y gogledd, ac arfordir deheuol y sir cyn belled i'r dwyrain â Chydweli.
Mae llawer o wasanaethau wedi’u lleoli yn y Tywi/Taf a all eich cefnogi gyda’ch iechyd a’ch lles.
Beth yw Clwstwr?
Weithiau byddwch yn clywed eich ardal yn cael ei disgrifio fel ‘Clwstwr’. Mae hwn yn disgrifio sut mae llawer o wasanaethau lleol sy'n ymwneud ag iechyd a gofal mewn ardal ddaearyddol yn cydweithio. Y nod yw cydgysylltu llesiant pobl a chymunedau yn well.
Mae gan Glwstwr Tywi/Taf boblogaeth o 62,100 o bobl a thua 26,900 o aelwydydd. 
Mae gan Glwstwr Tywi/Taf:
- 13 fferyllfa gymunedol
- 11 practis optometrig (optegwyr)
- 7 deintyddfa ac 1 practis orthodontig
- 8 practis meddyg teulu
- 1 ysbyty (Ysbyty Glangwili)
- 1 ysbyty Cymunedol (Ysbyty Llanymddyfri)
- 11 cartref nyrsio a phreswyl
- 1 tîm adnoddau cymunedol (gwahanol weithwyr gofal iechyd proffesiynol yn eich helpu yn eich cymuned)
Gallwch ddarganfod sut y gall rhai o’r gwasanaethau hyn eich helpu, a pha un sydd orau i’ch helpu mewn gwahanol amgylchiadau, drwy fynd i’n hadnodd gwe a chyfres fideos Fy Iechyd, Fy Newis yma (agor mewn dolen newydd).
Mae amrywiaeth o Wasanaethau Cymunedol eraill sy’n gallu darparu gofal a chymorth yn eich cartref eich hun neu’n agos ato.
Y nod yw darparu'r rhan fwyaf o'ch gofal mor agos i'ch cartref â phosibl. Gall hyn eich cadw’n iach am fwy o amser ac osgoi gorfod teithio i’r ysbyty pan nad oes angen. Mae'r timau hyn yn helpu i'ch cael chi adref o'r ysbyty yn gyflymach, pan fyddwch chi'n barod.
Rydym hefyd am i chi gael eich cefnogi i wneud dewisiadau am eich iechyd a'ch lles eich hun a chael eich grymuso a'ch cefnogi i fyw bywyd o'r ansawdd gorau.
Am ein poblogaeth
Mae llawer o’n hardal yn wledig, gyda phocedi trefol, ac mae gennym ni fwy o bobl hŷn yn byw yma na rhannau eraill o’r wlad.
Mae pobl yn byw gyda phroblemau iechyd lluosog. Mae hyn yn golygu y gallant fod angen iechyd a gofal am lawer o wahanol resymau, a chan wahanol weithwyr proffesiynol ar yr un pryd.
Yng Nghlwstwr Tywi/Taf rydym yn gwybod mai’r risgiau/cyflyrau iechyd mwyaf yw:
- pwysedd gwaed uchel
- diabetes
- eiddilwch
- iechyd meddwl
Isod mae rhai enghreifftiau o brosiectau a ariennir gan y clwstwr sy'n anelu at gefnogi iechyd a lles y boblogaeth leol hon.
- Cymorth gydag Eiddilwch a sut i leihau derbyniadau brys. Ein nod yw cefnogi ein poblogaeth leol i aros yn eu cartrefi eu hunain. Mae pwyslais ar les y boblogaeth a chysylltiadau cymunedol, trwy sefydlu mwy o gysylltiadau â Gwasanaethau Partner. Mae’r Clwstwr ar hyn o bryd yn recriwtio ar gyfer Cydlynydd Asesu Gofalwyr i gefnogi hyn.
- Cefnogi pobl sydd mewn mwy o berygl o fod angen gofal brys neu argyfwng trwy anelu at integreiddio a rhoi mwy o bwyslais ar ofal rhagweld ac ataliol. Mae'r Clwstwr yn cyfarfod yn fisol gyda'r holl arweinwyr proffesiynol.
- Darparu Gwasanaethau Iechyd Meddwl fel MIND ar gyfer symptomau iechyd meddwl isel i ganolig a chymorth atal hunanladdiad PAPRYUS i bobl ifanc.