Clwstwr De Ceredigion
Consultation has concluded
Beth sydd ar gael i fy helpu fy iechyd a lles yn Ne Ceredigion?
Mae Clwstwr De Ceredigion yn ffinio â Sir Gaerfyrddin, gan gwmpasu trefi Llanbedr Pont Steffan, Llandysul a Chastell Newydd Emlyn. I'r de mae Aberteifi, a ffin Sir Benfro, ac mae clwstwr De Ceredigion yn mynd cyn belled i'r gogledd i'r sir â Chei Newydd ar yr arfordir.
Mae amrywiaeth o wasanaethau yn Ne Ceredigion a all gefnogi eich iechyd a'ch lles.
Beth yw Clwstwr?
Weithiau byddwch yn clywed eich ardal yn cael ei disgrifio fel ‘Clwstwr’. Mae hwn yn disgrifio sut mae llawer o wasanaethau lleol sy'n ymwneud ag iechyd a gofal mewn ardal ddaearyddol yn cydweithio. Y nod yw cydgysylltu llesiant pobl a chymunedau yn well.
Mae gan Dde Ceredigion boblogaeth o 47,900 o bobl ar draws 21,600 o aelwydydd. 
Mae gan Dde Ceredigion:
- 13 fferyllfa gymunedol
- 7 practis optometrig (optegwyr)
- 3 deintyddfa
- 5 practis meddyg teulu
- 1 canolfan gofal integredig (Aberteifi)
- 1 tîm nyrsio eiddilwch arbenigol
Gallwch ddarganfod sut y gall rhai o’r gwasanaethau hyn eich helpu, a pha un sydd orau i’ch helpu mewn gwahanol amgylchiadau, drwy fynd i’n hadnodd gwe a chyfres fideos Fy Iechyd, Fy Newis yma (agor mewn dolen newydd).
Mae amrywiaeth o wasanaethau cymunedol sy’n darparu gofal a chymorth yn eich cartref eich hun neu’n agos ato.
Y nod yw darparu'r rhan fwyaf o'ch gofal mor agos i'ch cartref â phosibl. Gall hyn eich cadw’n iach am fwy o amser ac osgoi gorfod teithio i’r ysbyty pan nad oes angen. Mae'r timau hyn yn helpu i'ch cael chi adref o'r ysbyty yn gyflymach, pan fyddwch chi'n barod.
Rydym hefyd am i chi gael eich cefnogi i wneud dewisiadau am eich iechyd a'ch lles eich hun a chael eich grymuso a'ch cefnogi i fyw bywyd o'r ansawdd gorau.
Am ein poblogaeth
Mae llawer o’n hardal yn wledig, gyda’r ganran uchaf o gleifion oedrannus ar draws Hywel Dda.
Mae pobl yn byw'n hirach, gyda phroblemau iechyd lluosog. Mae hyn yn golygu bod angen iechyd a gofal ar gleifion yn aml am resymau lluosog, a chan weithwyr proffesiynol gwahanol ar yr un pryd.
Yn Ne Ceredigion, y risgiau/cyflyrau iechyd mwyaf yw:
- diabetes
- eiddilwch
- iechyd meddwl
Isod mae rhai enghreifftiau o brosiectau a ariennir gan y Clwstwr sy'n anelu at gefnogi iechyd a lles y boblogaeth leol.
- Mae Tîm Eiddilwch yn darparu gofal ataliol yn y gymuned ac yng nghartrefi cleifion. Gwneir hyn yn gyflym, gyda’r nod o leihau derbyniadau i’r ysbyty.
- Rydym yn ariannu Area 43, sefydliad lleol sy’n darparu cwnsela i bobl ifanc rhwng 13 a 30 oed i wella Iechyd Meddwl.
- Mae pob meddygfa yn yr ardal yn darparu'r Rhaglen Atal Diabetes. Mae'r rhaglen hon yn amlygu grwpiau risg uchel ac yn darparu addysg a chymorth i leihau achosion o Ddiabetes Math 2.