Canolfan iechyd a lles Llanelli

Rhannu Canolfan iechyd a lles Llanelli ar Facebook Rhannu Canolfan iechyd a lles Llanelli Ar Twitter Rhannu Canolfan iechyd a lles Llanelli Ar LinkedIn E-bost Canolfan iechyd a lles Llanelli dolen

Mae datblygiad cynllun Gwella Iechyd a Lles gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) yn nodi sut y bydd gwasanaethau iechyd lleol yn gweithio gyda phartneriaid, cymunedau, cleifion a’r cyhoedd i wella llesiant, mwynhau ffordd iach o fyw a mynd i’r afael â phrif achosion salwch y gellir ei atal a marwolaeth gynnar.

Fel rhan o hyn, cyflwynodd y bwrdd iechyd gais cynllunio ym mis Rhagfyr 2022 ar gyfer darparu Canolfan Gwella Iechyd a Lles yn Llanelli, a fydd yn cynyddu ystod a hygyrchedd gwasanaethau hanfodol ar gyfer y boblogaeth leol. Mae'r bwrdd iechyd a phartneriaid wedi archwilio lleoliadau posibl eraill ond wedi sefydlu Anchor Point fel yr eiddo mwyaf addas i'w ddatblygu.

Bwriad y cyfleuster yw gwella iechyd a lles y gymuned a chenedlaethau'r dyfodol trwy ddarparu gwasanaethau arwahanol a chyfrinachol i'r gymuned leol ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n dymuno ceisio cymorth gyda newid ymddygiad ffordd o fyw.

Mae’r bwrdd iechyd wedi ymrwymo i ymgysylltu â’r gymuned leol ynghylch y datblygiad arfaethedig hwn ac mae sesiwn galw heibio cyhoeddus wedi’i threfnu ar gyfer dydd Mawrth 21 Chwefror 2023 rhwng 2pm a 7pm yng Nghanolfan Selwyn Samuel, Llanelli. Gall aelodau o'r cyhoedd ddod draw i drafod cynlluniau gyda staff a rheolwyr y ddarpariaeth gwasanaeth arfaethedig – bydd hyn yn cynnwys Heddlu Dyfed Powys, staff y Bwrdd Iechyd a darparwyr gwasanaethau trydydd sector.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau penodol yr hoffech i ni eu hateb yn y digwyddiad, rhowch nhw yn yr adran llyfr gwesteion.

Bydd y ddolen hon yn parhau ar agor am wythnos ar ôl y digwyddiad er mwyn eich galluogi i roi adborth ar ôl i chi gael y cyfle i siarad â chynrychiolwyr y Bwrdd Iechyd a darparwyr gwasanaethau.

  • Daeth yr holiadur hwn i ben ar 01/03/2023. Diolch i bawb a gymerodd amser i gymryd rhan. Mae'r Bwrdd Negeseuon ar y dudalen hon yn dal i fod ar gael i chi rannu eich barn. Bydd y Bwrdd Iechyd yn parhau i ystyried eich barn.

    Llenwi holiadur
    Rhannu Ffurflen adborth digwyddiad ymgysylltu â'r cyhoedd ar Facebook Rhannu Ffurflen adborth digwyddiad ymgysylltu â'r cyhoedd Ar Twitter Rhannu Ffurflen adborth digwyddiad ymgysylltu â'r cyhoedd Ar LinkedIn E-bost Ffurflen adborth digwyddiad ymgysylltu â'r cyhoedd dolen
Diweddaru: 22 Chwef 2023, 11:00 AC