Adeiladu dyfodol iachach yn dilyn COVID-19

Rhannu Adeiladu dyfodol iachach yn dilyn COVID-19 ar Facebook Rhannu Adeiladu dyfodol iachach yn dilyn COVID-19 Ar Twitter Rhannu Adeiladu dyfodol iachach yn dilyn COVID-19 Ar LinkedIn E-bost Adeiladu dyfodol iachach yn dilyn COVID-19 dolen

Daeth yr ymarfer ymgysylltu hwn i ben ar 21 Mehefin 2021. Diolch i bawb a gymerodd amser i gymryd rhan. Mae'r Bwrdd Negeseuon ar y dudalen hon yn dal i fod ar gael i chi rannu eich barn. Bydd y Bwrdd Iechyd yn parhau i ystyried eich barn.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gofyn i bobl Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro i helpu i lywio gwasanaethau’r dyfodol ymhellach, trwy gymryd rhan mewn ymarfer ymgysylltu dros gyfnod o chwe wythnos.

Ers cyhoeddi ei strategaeth, Canolbarth a Gorllewin Cymru Iachach: Cenedlaethau’r Dyfodol yn Byw’n Dda yn 2018, mae’r Bwrdd Iechyd wedi gweithio gyda phartneriaid i ddarparu gofal a datblygu gwasanaethau.

Fodd bynnag, mae pandemig coronafeirws wedi cael effaith mawr ar wasanaethau iechyd a gofal. O ganlyniad, mae’r Bwrdd Iechyd am ddysgu gan y cyhoedd sut mae’r pandemig wedi effeithio ar eu hiechyd a’u gofal, a’u mynediad at y gwasanaethau hyn.

Mae BIP Hywel Dda hefyd yn gofyn am adborth y cyhoedd mewn perthynas â’i strategaeth hirdymor i ddatblygu ac adeiladu ysbyty newydd yn ne ardal Hywel Dda, rhywle rhwng ac yn cynnwys Sanclêr yn Sir Gaerfyrddin ac Arberth yn Sir Benfro. Dyma’r lleoliad mwyaf canolog i fwyafrif y boblogaeth yn ne ardal Hywel Dda, a phenderfynwyd arno trwy ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd yn 2018.

Bydd yr ymarfer ymgysylltu yn para o ddydd Llun 10 Mai tan ddydd Llun 21 Mehefin 2021.

Darllenwch y ddogfen drafod - Adeiladu dyfodol iachach ar ôl COVID-19, sydd i'w gweld ar y dudalen hon - ar y brig, ar y dde (o dan “Dogfennau” mewn amrywiaeth o fformatau) cyn ateb yr holiadur isod.

Am wybodaeth bellach, ebostiwch: hyweldda.ymgysylltu@wales.nhs.uk neu ffoniwch 01554 899 056.

  • Wedi cau: Mae'r arolwg hwn wedi'i gwblhau.

    Daeth yr holiadur hwn i ben ar 21 Mehefin 2021. Diolch i bawb a gymerodd amser i gymryd rhan. Mae'r Bwrdd Negeseuon ar y dudalen hon yn dal i fod ar gael i chi rannu eich barn. Bydd y Bwrdd Iechyd yn parhau i ystyried eich barn.

    Llenwi holiadur
    Rhannu Holiadur ar Facebook Rhannu Holiadur Ar Twitter Rhannu Holiadur Ar LinkedIn E-bost Holiadur dolen
Diweddaru: 17 Chwef 2022, 10:54 AC