Ymgynghoriad ar Strategaeth Anabledd Dysgu Gorllewin Cymru

Rhannu Ymgynghoriad ar Strategaeth Anabledd Dysgu Gorllewin Cymru ar Facebook Rhannu Ymgynghoriad ar Strategaeth Anabledd Dysgu Gorllewin Cymru Ar Twitter Rhannu Ymgynghoriad ar Strategaeth Anabledd Dysgu Gorllewin Cymru Ar LinkedIn E-bost Ymgynghoriad ar Strategaeth Anabledd Dysgu Gorllewin Cymru dolen

Ynglŷn â'r ymgynghoriad

Dros y 2 flynedd ddiwethaf mae Cynghorau Sir Penfro, Ceredigion a Chaerfyrddin a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi bod yn ymgysylltu â phobl niwrowahanol a phobl ag anableddau dysgu fel rhan o drafodaethau ynghylch y Strategaeth Anabledd Dysgu. Ar hyn o bryd, mae tair strategaeth Anabledd Dysgu (AD) debyg iawn yn Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion. Bydd y strategaeth hon yn un strategaeth ranbarthol unigol sy’n cwmpasu pob ardal. Mae’r strategaeth wedi cael ei hadolygu gan y Bartneriaeth Gwella Bywydau Ranbarthol (RILP), sydd yn grŵp tair sir yn cynnwys pobl o’r canlynol:

  • Cyngor Sir Caerfyrddin
  • Cyngor Sir Ceredigion
  • Cyngor Sir Penfro
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
  • Tîm Perffaith
  • Pobl yn Gyntaf Sir Gaerfyrddin
  • Pobl yn Gyntaf Sir Benfro
  • Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Cymru
  • Amrywiol brosiectau a ariennir gan y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol

Argymhellion Strategaeth Anabledd Dysgu Gorllewin Cymru

Eich Barn

Ydych chi’n:

  • Unigolyn sydd â phrofiad byw o anabledd dysgu, awtistiaeth neu niwrowahaniaeth?
  • Rhiant neu ofalwr i unigolyn ag anabledd dysgu neu unigolyn niwrowahanol?

Ydych chi'n:

  • Cynrychioli sefydliad sy'n darparu gwasanaeth i bobl ag anabledd dysgu neu bobl niwrowahanol?
  • Gwaithio i awdurdod lleol neu Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda?

Byddem yn hoffi clywed eich barn am Argymhellion Strategaeth Anabledd Dysgu Gorllewin Cymru

https://wwrpb.org.uk/cy/ymgynghoriad-blaenoriaethau-gofalwyr-gorllewin-cymru-2/

Cwblhewch yr arolwg ar-lein (yn agor mewn tab newydd) erbyn 5 Gorffennaf 2026.

Os hoffech chi gopi papur, ffoniwch ein Canolfan Gyswllt Cwsmeriaid ar 01437 764551 neu anfonwch e-bost at getinvolved@pembrokeshire.gov.uk fel y gallwn ni wneud trefniadau i’w anfon atoch. Fel arall, gallwch argraffu, cwblhau a dychwelyd y ffurflen ymateb i'r ymgynghoriad Norman Industries, Units 1-2, Snowdrop Lane, Haverfordwest, Pembrokeshire, SA61 1JB

Os gwelwch chi’n dda, cwblhewch yr arolwg erbyn ddydd Sul, 5ed Gorffennaf 2026

Bydd eich ymateb yn cyfrannu at y Strategaeth Anabledd Dysgu Gorllewin Cymru newydd 2026–2031, a fydd yn cael ei gyflwyno i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn yr Hydref / Gaeaf 2026.

This item is also available in English / Mae’r eitem hon ar gael yn Saesneg hefyd.

Hysbysiad Preifatrwydd – Ffurflenni Microsoft (yn agor mewn tab newydd)

Diweddaru: 18 Mai 2026, 12:26 PM